Cadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin am 2012 2013

English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A

Cadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin am 2012-2013 

Y Cynghorydd Mrs Siân Elisabeth Thomas, M.A., M.Add, yw Cadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin am 2012/2013.

Etholwyd hi yn Gadeirydd yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor a gynhaliwyd ar 17eg Mai 2012, a bydd yn gwasanaethu tan y Cyfarfod Blynyddol nesaf a gynhelir ym mis Mai 2013, Yn hanu o Gwm Aman yn wreiddiol, ond wedi’i magu yng Nghwm Tawe – Ystradgynlais a Pontardawe, mae’r Cynghorydd Thomas yn briod i David. Mae'n dal nifer o swyddi mewn bywyd cyhoeddus, a hefyd wedi cyhoeddi 3 llyfr yn y Gymraeg, yn ymwneud a chyfrifadureg.

Mae'r Cynghorydd Thomas wedi bod yn cynrychioli Ward Etholiadol Penygroes (sy'n cynnwys Caerbryn a Blaenau) ers mis Mai 1999. Yn ogystal mae'n aelod o Gyngor Cymuned Llandybie. Y Cadeirydd yw prif ddinesydd Cyngor Sir Caerfyrddin, ac fe'i hetholir yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Ymhlith dyletswyddau'r swydd y mae cadeirio cyfarfodydd llawn y Cyngor a chynrychioli'r Cyngor mewn digwyddiadau ffurfiol a seremonïol yn y Sir a tu hwnt. Hefyd mae'n estyn croeso i bobl sy'n ymweld â'r Sir ac yn cefnogi digwyddiadau sy'n cael eu cynnal gan bobl leol a mudiadau yn y Sir.

Fel rheol mae Cadeirydd y Cyngor Sir yn codi arian tuag at elusennau lleol yn ystod y flwyddyn. Mae'r Cynghorydd Thomas yn parhau â'r traddodiad rhagorol hwnnw, ac yn ei araith derbyn y swydd dywedodd y Cadeirydd ei bod yn hynod falch o holl gwirfoddolwyr y Sir, ac i’r perwyl yma bydd yn sicrhau bod pob ceiniog o’r arian bydd yn codi at ei elusennau yn aros o fewn y Sir. Bydd yn cefnogi Ysbyty Glanaman, Cartref Hafan yn Rhydaman, sy’n edrych ar ôl y rhai sy’n dioddef o ‘Dementia’, a Chymdeithas Clefyd Siwgwr Cwm Gwendraeth.

Llwytho i lawr a rhagor o wybodaeth 

I weld y Cadeirydd dyddiadur os gwelwch yn dda cliciwch yma.


Ms Eira Evans
Pen-swyddog y Gwasanaethau Democrataidd (Swyddfa'r Cadeirydd
Adran y Prif Weithredwr
Cyngor Sir Caerfyrddin
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
SA31 1JP
Ffôn: 01267 224060
E-bost: HEEvans@sirgar.gov.uk

Tudalen wedi ei diweddaru ar 27/7/2012