Cynghorwyr a phwyllgorau
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Cynghorwyr a phwyllgorau 

Etholir cynghorwyr gennych chi i gynrychioli eich barn pan fyddant yn gwneud penderfyniadau ynghylch gwasanaethau a materion sy'n effeithio ar y gymuned leol.

Mae'r Cyngor yn cynnwys 74 o Gynghorwyr etholedig o amrywiaeth o grwpiau Gwleidyddol. Nhw sy'n gwneud y penderfyniadau ac yn cytuno ar bolisïau'r Cyngor a blaenoriaethau gwariant y Sir yn gyffredinol. Ar ran y gymuned leol maent yn gwneud penderfyniadau am wasanaethau lleol, cyllidebau, lefel gyffredinol gwasanaethau'r Cyngor a lefel Treth y Cyngor sydd i'w chodi bob blwyddyn.
Prif rôl cynghorwyr yw cynrychioli eu ward, neu eu hardal, a'r bobl sy'n byw yno, ond mae gan gynghorwyr gyfrifoldebau arwain a chraffu hefyd.

Ni all pob un o'r 74 Cynghorydd gwrdd bob tro mae angen i'r Cyngor wneud penderfyniad, ac felly mae'r Cyngor yn dirprwyo neu'n datganoli peth o'i bwerau gwneud penderfyniadau i'r Bwrdd Gweithredol, y Pwyllgorau a'r Swyddogion. I gael disgrifiad cryno o sut mae strwythur gwneud penderfyniadau'r Cyngor yn gweithredu, cliciwch ar y ddolen ganlynol:  Strwythyr Gwneud Penderfyniadau

Os ydych am wybod pwy yw aelodau’r Bwrdd Gweithredol a'r Pwyllgorau, cliciwch ar y ddolen ganlynol:

Aelodaeth y Bwrdd Gweithredol a'r Pwyllgorau

Os hoffech wybod beth sydd wedi cael ei drafod mewn cyfarfodydd, cliciwch ar y ddolen ganlynol:

Agenda a Chofnodion y Cyngor, y Bwrdd Gweithredol a'r Pwyllgorau
Os hoffech wybod pryd cynhelir cyfarfodydd a beth fydd yn cael ei drafod mewn cyfarfodydd i ddod,(Agenda ar gael iw weld fel arfer 4 diwrnod cyn y cyfarfod) cliciwch ar y ddolen ganlynol:

Dyddiadur cyfarfodydd y cyngor

Os ydych am wybod pwy yw eich Cynghorydd Sir lleol, neu fanylion unrhyw aelod arall o'r Cyngor, cliciwch ar y ddolen ganlynol:-

Bydd cronfa ddata'r Cynghorwyr yn rhoi eu manylion cyswllt i chi, gwybodaeth ynghylch y cymorthfeydd y maent yn eu cynnal, pa bwyllgorau maent yn aelodau ohonynt o fewn y cyngor, i ba blaid wleidyddol maent yn perthyn, a rhai manylion bywgraffyddol cryno. A ddolen proffil o’r ward y mae yn cynrychioli#

Os hoffech dderbyn unrhyw wybodaeth bellach, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Tudalen wedi ei diweddaru ar 08/1/2013
 
Manylion Cysyllt
 
Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd,
Cyngor Sir Caerfyrddin,
Neuadd y Sir, Caerfyrddin,
SA31 1JP (Rhif ffôn: 01267-224029)