Rydym yn casglu adborth gan ein cwsmeriaid yn y ffyrdd canlynol:
- Arolwg Bodlonrwydd Cwsmeriaid Cyngor Sir Caerfyrddin (arolwg dros y ffôn ar gyfer cyswllt ffôn ac arolwg ar bapur ar gyfer cyswllt wyneb yn wyneb)
- Arolwg Bodlonrwydd Cwsmeriaid y Grŵp Meincnodi Cenedlaethol Siop Un-Stop
- Cardiau sylwadau cwsmeriaid sydd ar gael mewn Canolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid
- Arolwg Panel Dinasyddion Sir Gaerfyrddin
- Arolwg Fforwm 50+ Sir Gaerfyrddin
- Y Weithdrefn o ran Cwynion a Chanmoliaeth
- Arolwg Barn y Trigolion
Mae eich adborth chi yn ein helpu ni i wella'r hyn rydym yn ei wneud. Rydym wedi rhoi rhai enghreifftiau o newidiadau cadarnhaol rydym wedi eu gwneud ar ôl clywed gennych yn ein hymgyrch 'Fe ddywedsoch chi, fe wnaethom ni.'
Daliwch ati i roi eich sylwadau i ni…ni allwn ni wneud dim byd os nad ydych yn rhoi gwybod i ni…
Mae cardiau sylwadau ar gael – gofynnwch i’r Swyddogion Gwasanaeth Cwsmeriaid neu ffoniwch 01267 234567.
Eich Adborth
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau neu adborth ynghylch ein gwasanaeth, gofynnir ichi gysylltu â ni. Hoffem gael eich adborth neu’ch sylwadau.
Ffurflen Adborth