Diogelu Data

English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A

Diogelu Data 

Nod y Ddeddf Diogelu Data 1998 yw diogelu eich gwybodaeth bersonol a sicrhau yr ymdrinnir â hi yn ofalus ac yn briodol. Ystyr data personol yw gwybodaeth amdanoch chi, gan gynnwys eich enw, eich cyfeiriad, eich rhif ffôn neu eich manylion ariannol.

Mae'n ofynnol yn ôl y Ddeddf fod yr holl fudiadau sy'n casglu ac yn ymdrin â gwybodaeth bersonol yn cydymffurfio â nifer o reolau pwysig, sef yr egwyddorion Diogelu Data. Mae'r mudiadau neu bobl sy'n casglu ac yn ymdrin â gwybodaeth bersonol yn cael eu galw'n Rheolwyr Data.

Fel Rheolwr Data, mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymroi i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth drwy weithredu'r Egwyddorion Diogelu Data ar draws ei holl wasanaethau.

Am fanylion am sut yr ydym yn defnyddio eich gwybodaeth, gallwch gyfeirio at ein Hysbysiad Preifatrwydd.

Cael gafael ar eich gwybodaeth

Gwneud Cais



Teledu Cylch Cyfyng (TCC)



Os ydych yn gleient Gofal Cymdeithasol (gan gynnwys cyn-gleientiaid)



Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000

 

Cwynion

Gwybodaeth bellach

Am fwy o fanylion ar eich hawliau dan y Ddeddf Diogelu Data, mae gwefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn llawn gwybodaeth a chyngor defnyddiol.

Dogfennau Defnyddiol 

Tudalen wedi ei diweddaru ar 09/7/2012