Fel arfer mae'n rhaid gwneud cais yn ysgrifenedig. Dylid cyfeirio'r cais at y Cyngor ac mae'n rhaid ei fod yn cynnwys enw a chyfeiriad (post neu ebost) er mwyn gallu rhoi ymateb. Yn ogystal, dylid disgrifio'r wybodaeth y gwneir cais amdani mor glir ag y bo modd.
Gellir cyflwyno cais mewn nifer o ffyrdd:
- Drwy lythyr
- Drwy'r Ebost: drg@sirgar.gov.uk
- Neu drwy gwblhau ein ffurflen gais ar-lein.
- Gellir gwneud ceisiadau am wybodaeth amgylcheddol ar lafar o dan Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004.
Ar ôl inni gael cais ac, os bydd angen, rhagor o eglurhad i'n galluogi i chwilio am y wybodaeth y gofynnwyd amdani, mae'n ofynnol inni ymateb cyn pen 20 niwrnod gwaith.