Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gyngor blaenweithgar ac uchel ei gyflawniad, sy'n anelu at ddarparu gwasanaethau o safon uchel a gwneud Sir Gaerfyrddin yn lle gwell i fyw, gweithio a mwynhau eich amser hamdden.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn un o'r cyflogwyr mwyaf, yn ogystal â bod yn un o'r cyflogwyr mwyaf amrywiol yn Ne-orllewin Cymru, gan gyflogi dros 9000 o weithwyr sy'n darparu gwasanaethau i ryw 180,500 o bobl ym mhob cwr o'r sir wledig hon.
Caiff y Cyngor ei reoli gan 74 o gynghorwyr etholedig yn cynrychioli nifer o grwpiau gwleidyddol.
Y rhain sy'n gwneud y penderfyniadau ac yn cytuno ar bolisïau'r Cyngor a'r blaenoriaethau o ran gwariant.
Mae 6 chyfarwyddiaeth i'r cyngor, sef:-
• Y Prif Weithredwr
• Addysg a Phlant
• Gofal Cymdeithasol a Thai
• Y Gwasanaethau Technegol
• Adfywio a Hamdden
• Adnoddau