Cofrestr Etholwyr 2012 - Canfasio Aelwydydd
Dylai pob aelwyd yn Sir Gaerfyrddin fod wedi derbyn ffurflen cofrestru etholiadol erbyn hyn. Os nad ydych wedi cael eich ffurflen anfonwch neges e-bost at:gwasanaethauetholiadol@sirgar.gov.uk
Yr hyn sydd angen ichi ei wneud pan fyddwch yn cael eich ffurflen:
Sicrhau bod y cyfeiriad yn gywir
Sicrhau bod pawb y mae eu henwau wedi eu printio ar y ffurflen yn aelodau o'ch aelwyd, ac yn bobl a fydd fel rheol yn byw yno ar 15 Hydref
Sicrhau bod eu henwau wedi eu sillafu'n gywir
Rhoi llinell drwy enwau'r sawl nad yw'n byw yn eich cyfeiriad mwyach
Ychwanegu enwau unrhyw un sy'n byw gyda chi sy'n 16 neu'n 17 oed ac ysgrifennu eu dyddiadau geni yn y golofn briodol
Os yw'r ffurflen yn wag, ychwanegu enwau pawb ar eich aelwyd sy'n 18 oed neu'n hŷn ac enwau unrhyw un sy'n 16 neu'n 17 oed, ynghyd â'u dyddiadau geni fel eu bod yn gallu pleidleisio cyn gynted ag y bônt yn 18 oed
Cwblhau unrhyw golofnau eraill ar y ffurflen sy'n berthnasol i'r bobl ar eich aelwyd
Os yw'r holl fanylion ar eich ffurflen yn gywir heb fod angen gwneud dim newidiadau arnoch, y ffordd gyflymaf a hawsaf o gofrestru yw drwy:
Ffonio'r rhif ffôn sydd am ddim - 0800 197 9848 (24 HOURS)
Ymweld â'r wefan - www.registerbyinternet.com/carms
Mae'r manylion llawn ar eich ffurflen. Ar ôl gwneud hyn, gallwch ailgylchu'r ffurflen - peidiwch â'i dychwelyd drwy'r post gan y bydd hynny ond yn ychwanegu at gost y canfasio
Llarrlwytho Cofrestr Etholwyr 2012:
Carmarthenshire Register Forms.pdf
Os ydych wedi gorfod ychwanegu neu ddileu unrhyw fanylion, mae'n rhaid ichi lofnodi'r ffurflen a'i dychwelyd yn yr amlen y talwyd amdani ymlaen llaw. Nid oes modd defnyddio'r gwasanaeth ar-lein neu ffôn am ddim i gofrestru unrhyw newidiadau rydych wedi eu gwneud i'r ffurflen.
Os oes angen unrhyw gymorth arnoch i gwblhau'r ffurflen, ffoniwch 01267 228750.