Mae Sir Caerfyrddin yn Sir amrywiol iawn o safbwynt y boblogaeth a daearyddiaeth. Mae’r Sir yn cynnwys 58 Ward Etholiadol (a 74 Cynghorwr Sir) ac mae proffîl unigol ar gyfer pob ward wedi cael ei baratoi . Mae'r proffîl yn crynhoi rhai o brif nodweddion pob ward ynghyd â gwybodaeth leol.
Mae'r proffiliau Ward yn cynnwys casgliad o ystadegau o ffynonellau gwahanol wedi eu cyflwyno mewn dull cyson er mwyn galluogi cymhariaeth o ardaloedd, ymchwil i batrymau ac adnabyddiaeth o amrywiaethau. Mae proffîl tebyg hefyd wedi ei baratoi ar gyfer Sir Gaerfyrddin gyfan.
Mae'r fersiwn ddiweddaraf o'r proffiliau (a gyhoeddwyd ym mis Mai 2013) yn cynnwys ffynonellau gwybodaeth newydd gan gynnwys:
- Ystadegau Poblogaeth Cyfrifad 2011 (Swyddfa Ystadegau Gwladol, ONS)
- Data newydd o'r cyfrifiad am nodweddion poblogaeth, cyfansoddiad cartrefi a statws gweithgaredd economeg
- Math o Dai a Daliadaeth (Cyfrifiad 2011)
- Cyfraddau Geni a Marwolaeth fesul ward (2011)
- Amcangyfrif Incwm Cartrefi (CACI 'Paycheck' 2012)
- Cyfradd Geni a Marw
- Data NS-Sec (safle economeg gymdeithasol yn seiliedig ar alwedigaeth, Cyfrifiad 2011)
- Yr ystadegau'r farchnad llafur a budd-daliadau diweddaraf
Er mwyn gweld proffil ar gyfer Sir Gaerfyrddin plis cliciwch yma
Am wybodaeth bellach yn ymwneud â'r proffiliau hyn cysylltwch â:
Lesley Rees, Swyddog Polisi, Ymchwil a Gwybodaeth
llrees@sirgar.gov.uk