English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Treth y Cyngor 
making a council tax payment

Mae Treth y Cyngor yn cael ei phennu gan gynghorau lleol er mwyn helpu i dalu am y gwasanaethau a ddarperir yn eich ardal. Mae'r Cynghorau'n cael eu hincwm o dair prif ffynhonnell:

• Llywodraeth Cynulliad Cymru – Grant Cynnal Refeniw
• Trigolion Lleol – Treth y Cyngor
• Busnesau Lleol – Trethi Annomestig (a ailddosberthir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru)

Mae Treth y Cyngor yn dreth ar eiddo ac mae iddi elfen bersonol. Mae'r elfen eiddo yn seiliedig ar fand prisio’r eiddo. Mae'r elfen bersonol yn ystyried nifer y bobl 18 oed neu hŷn sy'n byw yn yr eiddo, ac mae'n caniatáu gostyngiad dan rai amgylchiadau.

Sylwch:

Gall gwybodaeth am Dreth y Cyngor gael ei rhannu â sefydliadau eraill, megis adrannau'r llywodraeth ac awdurdodau lleol e.e. at ddibenion gwirio, fel y caniateir gan y gyfraith, a hefyd gellir ei rhannu ag Adrannau eraill o'r Cyngor er mwyn cyflawni gwasanaethau statudol.

Tudalen wedi ei diweddaru ar 15/10/2010
 
Manylion Cysyllt
 
Council Tax
Ty Elwyn
Town Hall Square
Llanelli
SA15 3AP

Tel: 01554 742200
Fax: 01554 754188

E-mail Council Tax Section