O dan Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 mae dyletswydd gyfreithiol ar bob Awdurdod Lleol i weithio gyda'r heddlu a phartneriaid eraill i sefydlu Partneriaethau Diogelwch Cymunedol i fynd i'r afael â phroblemau trosedd ac anhrefn yn eu hardaloedd.
Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir Gaerfyrddin

Mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir Gaerfyrddin yn cael ei chadeirio gan Brif Weithredwr y Cyngor ac mae’n cynnwys uwch aelodau Heddlu Dyfed-Powys ac Awdurdod yr Heddlu, Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru, Gwasanaeth Prawf Dyfed-Powys, a'r Timau Troseddau Ieuenctid, a Bwrdd Iechyd Lleol Sir Gaerfyrddin.
Ffurfiwyd y Bartneriaeth er mwyn gwneud Sir Gaerfyrddin yn lle mwy diogel fyth i fyw, gweithio ac ymweld â hi.
Blaenoriaethau allweddol y Bartneriaeth yw mynd i'r afael â’r canlynol:
- Ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ofn troseddau
- Camddefnyddio sylweddau
- Cam-drin domestig
- Byrgleriaeth
- Troseddau treisgar / sy'n gysylltiedig ag alcohol
- Troseddau cerbydau
- Diogelwch ar y ffordd