Mae gan Gymru ei strategaeth ei hun ar gamddefnyddio sylweddau, Delio â Chamddefnyddio Sylweddau yng Nghymru: y dull partneriaeth, a lansiwyd ym mis Mai 2000. Mae'n ymwneud â chyffuriau anghyfreithlon, alcohol, meddyginiaethau dros y cownter a meddyginiaeth presgripsiwn yn unig a sylweddau anweddol.
Ers 1 Ebrill 2003, y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol sy’n gyfrifol am gynllunio a gweithredu camau i fynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau. Yng Nghynllun Gweithredu Camddefnyddio Sylweddau Sir Gaerfyrddin 2005-2008 nodir y prif broblemau camddefnyddio sylweddau a’r camau i'w cymryd i fynd i'r afael â'r materion hynny. I weld y Cynllun Gweithredu llawn, cliciwch ar y ddolen isod:
Cynllun Gweithredu Camddefnyddio Sylweddau Sir Gaerfyrddin
Mae'r Cynllun Gweithredu yn ffynhonnell o wybodaeth ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau, cynllunwyr, comisiynwyr a darparwyr gwasanaethau. Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin yn gweithio'n agos gydag asiantaethau sy’n bartneriaid iddo ar draws y sir i ddarparu a datblygu gwasanaethau i helpu unrhyw unigolion a'u teuluoedd sy'n wynebu anawsterau a achosir gan gamddefnyddio cyffuriau a/neu alcohol.
Mae'r meysydd canlynol wedi'u nodi fel blaenoriaethau ar gyfer y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol dros y 3 blynedd nesaf:
- Gostyngiad yn y lefelau o gamddefnyddio sylweddau o bob math
- Cynnydd yn argaeledd gwasanaethau i bobl sy'n dymuno delio â phroblem camddefnyddio sylweddau sydd ganddynt
- Darparu gwasanaethau y profwyd eu bod yn effeithiol, ac sy’n ymatebol i anghenion newidiol a’r galw amdanynt
- Lleihau troseddau sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau
- Helpu plant a phobl ifanc i beidio ag ymwneud â chamddefnyddio sylweddau, a delio ag unrhyw effaith a gaiff hynny ar eu teuluoedd a'u ffrindiau
- Sicrhau effaith gadarnhaol ar iechyd a lles cymdeithasol pobl Sir Gaerfyrddin trwy leihau camddefnyddio sylweddau
- Sicrhau y bydd ardaloedd trefol a gwledig Sir Gaerfyrddin yn cael eu trin yn gyfartal yn unol â’r angen a fesurwyd am wasanaethau
Mae gwybodaeth a gasglwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn dangos yr ystadegau canlynol ar gyfer Sir Gaerfyrddin. Mewn cyfnod nodweddiadol o 3 mis, roedd 262 atgyfeiriad newydd o gleientiaid sydd â phroblemau dibyniaeth ar sylweddau. Roedd y rhesymau am yr atgyfeiriadau fel a ganlyn:
- 144 dibyniaeth ar alcohol
- 38 dibyniaeth ar Heroin
- 35 Canabis
- 19 Amffetaminau
- 1 Cocên
- 4 Crac Cocên
- 21 Arall [gan gynnwys meddyginiaeth bresgripsiwn]
Gall unrhyw un sydd am gymorth gyda phroblemau camddefnyddio sylweddau gysylltu â'u meddyg teulu lleol i gael eu hatgyfeirio i’r asiantaeth briodol.
Fel arall, gellir cael cyngor a chymorth drwy ofyn i'r asiantaethau canlynol sy'n cynnig cymorth a chefnogaeth i bobl sy'n dioddef o broblemau cyffuriau ac alcohol.
Mae pob un o'r gwasanaethau a restrir isod ar gael am ddim ac yn gyfrinachol.
Alcoholics Anonymous Llinell gymorth 24 awr - 0845 7697555
I gael rhestr o gyfarfodydd yn eich ardal chi
Chooselife Family/Canolfan Galw Heibio
01554 741122
Canolfan Antioch Centre
Heol Copperworks
Llanelli
SA15 2NE
admin@chooselifecymru.com
I gael cyngor a chymorth ar gyfer pobl sy’n camddefnyddio sylweddau a’u teuluoedd yn Llanelli
PRISM
01267 231634
Forestry House
Heol y Bragdy
Caerfyrddin
SA31 1TF
support@prism-carmarthenshire.org.uk
I gael cyngor am faterion alcohol yn Sir Gaerfyrddin
SUDDS
01267 242023
Forestry House
Heol y Bragdy
Caerfyrddin
SA31 1TF
boynesmenna@aol.com
Drug and alcohol advice and support for young people under 18 years old
Cyngor a chymorth ar gyffuriau ac alcohol i bobl ifanc dan 18 oed
01267 244442
Penlan
Heol Penlan
Caerfyrddin
SA31 1DN
Gwasanaeth cymorth cyffuriau i bobl dros 18 oed
I roi gwybodaeth am weithgareddau delio mewn cyffuriau yn eich ardal ffoniwch Uned Cudd-wybodaeth Heddlu Dyfed Powys ar 0845 330 2000. Ymdrinnir â phob gwybodaeth yn gwbl gyfrinachol ac nid oes rhaid i chi roi eich enw os nad ydych am wneud hynny.