Cefnogi Pobl
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 25/2/2013
Cefnogi Pobl 

Mae'r Rhaglen Cefnogi Pobl yn estyn cymorth sy'n gysylltiedig â thai er mwyn helpu pobl sy'n agored i niwed i fyw mewn modd mor annibynnol â phosibl. Gallai hynny fod yn eu cartrefi eu hunain neu mewn hosteli, tai gwarchod, neu ffurf arall arbenigol ar dai â chymorth. Mae'r rhaglen yn rhoi cymorth cyflenwol i bobl y gallai fod arnynt angen gofal personol neu feddygol hefyd.

Mae cymorth sy'n gysylltiedig â thai yn wasanaeth cymorth rheng flaen sy'n darparu cymorth hanfodol â sgiliau byw megis rheoli tenantiaeth, ymdrin ag asiantaethau eraill, a/neu gyllidebu, sydd oll yn rhan bwysig o fyw'n annibynnol. Mae'r rhaglen hon yn darparu £138 miliwn o gyllid ar gyfer rhyw 50,000 o bobl agored i niwed ar draws Cymru. Mae Cefnogi Pobl yn rhaglen 'buddsoddi er mwyn arbed' sy'n fynych yn arbed arian i wasanaethau eraill mwy costus, gan gynnwys iechyd, gofal cymdeithasol a chyfiawnder troseddol. Er enghraifft, gall gwasanaethau ataliol i bobl agored i niwed leihau gofal brys mewn ysbytai a gofal preswyl ynghyd â lleihau'r galw am wasanaethau gofal cymdeithasol tymor hir i oedolion, sy'n gostus iawn.

 
Manylion Cysyllt
 

Tîm Byw'n Annibynnol a Thai Fforddiadwy
Ty Elwyn 
Llanelli
SA15 3AP
Ffôn: 01554 899322
E-bost: cefnogipobl@sirgar.gov.uk