Tudalen wedi ei diweddaru ar 24/8/2012
System Atgyfeirio Unedig Cefnogi Pobl (SAUCP)
Mae prosiect System Atgyfeirio Unedig Cefnogi Pobl (SAUCP) yn cynnwys pedwar awdurdod lleol Dyfed Powys (sef Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys).
Nod y prosiect yw ei gwneud yn haws i bobl ganfod y gwasanaeth gorau iddynt hwy, os oes angen cymorth cysylltiedig â thai arnynt.
Bydd y system yn cysylltu â’r gwasanaethau presennol a ddarperir gan y cynghorau hyn ac yn ei gwneud yn haws i ddefnyddwyr gwasanaeth ac asiantaethau ddod o hyd i’r gwasanaethau sydd ar gael.
Rydym wedi bod yn archwilio beth sy’n digwydd yn awr a gallwn weld llawer o waith da yn ogystal ag adegau pan fyddai system sy’n paru pobl a gwasanaethau yn gwneud bywyd yn haws, yn arbed amser ac arian ac yn galluogi pawb i ddarparu gwell gwasanaeth i’n defnyddwyr gwasanaethau.