Mae llawer o dir o amgylch Canolfan Maes Lliedi a gellir cerdded o'r Ganolfan i bentref Felin-foel ac mae'n agos i dref Llanelli.
Mae Maes Lliedi yn darparu gwasanaeth mewn amgylchedd ymlaciol ar gyfer oedolion sydd dros 55 oed ac sydd ag anableddau dysgu. Nod y Ganolfan yw cadw annibyniaeth a sgiliau pobl yn y gymuned.
Mae'r gweithgareddau ym Maes Lliedi yn cynnwys:
Cerddoriaeth; Coginio; Paratoi bwffes; Cyfrifiaduron; Gwaith Cymunedol Gwirfoddol; Celf a Chrefft; ac ati.