Beth yw Cynllunio ar gyfer yr Unigolyn?
Mae Cynllunio ar gyfer yr Unigolyn yn wasanaeth sy’n ymrymuso unigolion. Mae Cynllunio ar gyfer Unigolyn yn golygu rhoi’r person ynghanol y gwaith o gynllunio ar gyfer eu bywydau. Mae Cynllunio ar gyfer yr Unigolyn yn edrych ar ‘Werthoedd Cynhwysiad’, sef fod gan bobl yr hawl i fyw yn y gymuned ac i fod yn rhan ohoni a bod gan bobl lais a’r hawl i gael gwrandawiad.
Mae 'Cynllunio ar gyfer yr Unigolyn' yn golygu gwneud pethau yn y ffordd sydd orau gan y person ac sy’n eu helpu i fod yn rhan o’u cymuned. Os yw rhywun ynghanol rhywbeth, nhw yw’r person pwysicaf.
Mae Cynllunio ar gyfer yr Unigolyn yn golygu rhoi’r person ynghanol y gwaith o gynllunio ar gyfer eu bywydau.
Mae Cynllunio ar gyfer yr Unigolyn yn golygu:
- gwrando ar a dysgu am yr hyn y mae pobl ei eisiau o’u bywydau
- helpu pobl i feddwl am yr hyn maen nhw ei eisiau yn awr ac i’r dyfodol
- y teulu, ffrindiau a gweithwyr a gwasanaethau proffesiynol yn gweithio gyda’r person i wneud i hyn ddigwydd.
"Mae Cynllunio ar gyfer yr Unigolyn yn golygu fy mod i’n cael cynllunio fy mywyd fel yr wyf i eisiau byw. Nid yw’n golygu fod rhaid imi wneud hynny ar fy mhen fy hun. Mae’n golygu fod pobl eraill rydw i yn eu hoffi ac yn ymddiried ynddynt yn fy helpu – ar fy nhelerau i"
Sut all Cynllunio ar gyfer yr Unigolyn fy helpu?
Mae llawer o bethau da am Gynllunio ar gyfer yr Unigolyn. Mae pobl sydd wedi gweithio fel hyn wedi gweld ei fod yn:
- eu helpu i feddwl am yr hyn maen nhw ei eisiau o’u bywydau, eu breuddwydion a’u dyheadau
- eu helpu i feddwl am bwy sydd yn eu bywyd a gwneud a datblygu cyfeillgarwch a pherthnasoedd.
- eu helpu i deimlo’n dda am eu hunain ac i fod yn fwy hyderus
- helpu’r bobl yn eu bywydau i weithio gyda’i gilydd er mwyn datrys problemau a gofalu nad yw hunllefau pobl yn digwydd
- eu helpu i deimlo ac i fod yn rhan bwysig o’u cymuned
"Roeddwn i’n wirioneddol ofnus pe na bai pethau’n gweithio allan yn fy nhŷ newydd y byddai’n rhaid imi fynd yn ôl i’r ysbyty. Erbyn hyn rydw i’n gwybod na fyddai’r bobl yn fy mywyd yn gadael i hynny ddigwydd"
- helpu gwasanaethau i ddeall sut y gallan nhw gynnal a chefnogi pobl yn y ffordd maen nhw ei eisiau.
"Mae Jane yn cael ei labelu’n awtistig. Cafodd ei danfon i ffwrdd i’r ysgol oherwydd ei hymddygiad anodd. Helpodd ei chynllun ei theulu a’i rheolwr gofal i ddeall na allai’r hyn roedd Jane ei eisiau a’i angen o fywyd ddod o’r gwasanaethau oedd ar gael. Helpodd Taliad Uniongyrchol Jane i ddewis y bobl roedd hi eu heisiau i’w chynnal a’i chefnogi yn y ffordd roedd ei hangen arni hi."
- helpu pobl i feddwl am y newidiadau maen nhw eisiau eu gwneud yn eu bywydau
- helpu pobl i feddwl am bwy ydyn nhw, ac am y pethau sy’n eu gwneud yn arbennig a phwysig
Sut alla i gysylltu?
Os hoffech gael gwybod mwy am Gynllunio ar gyfer yr Unigolyn neu os hoffech gael hyfforddiant, mae croeso ichi gysylltu â Peter Morgan os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cynllun.
Disability Wales, Bridge House, Caerphilly Business Park, Van Road, Caerphilly CF83 3GW
Tel: 029 20887325
Fax: 029 20888702
email: info@disabilitywales.org
Cysylltwch â Steph Harnett i gael mwy o wybodaeth am hyfforddiant yn Life Options.
Ffôn: 01550 740338
Symudol: 07809 119222
ebost: Stephharnett@aol.com