Y Gronfa Byw’n Annibynnol
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Y Gronfa Byw’n Annibynnol 

Bydd y Gronfa Byw’n Annibynnol o fudd os oes arnoch angen cymorth ychwanegol i wneud gweithgareddau, rhywun i gysgu dros nos neu gymorth yn eich cartref eich hun.

Beth yw’r Gronfa Byw’n Annibynnol?

Ffynhonnell genedlaethol yw’r Gronfa Byw’n Annibynnol sy’n cynnig cymorth ariannol i alluogi pobl anabl i ddewis byw yn y gymuned yn hytrach nag mewn cartref preswyl. 

Mae’r Gronfa Byw’n Annibynnol yn rhoi cymorth ar ffurf taliadau cyson bob pedair wythnos i unigolion, ac fe ddefnyddir y taliadau i brynu gofal personol yn y gymuned. Gall y rhai sy’n derbyn cymorth ddefnyddio asiantaethau gofal neu gyflogi cynorthwywyr personol, ond ni chânt gyflogi perthnasau sy’n byw yn yr un tŷ â hwy.


Sut y gallaf gael cymorth gan y Gronfa?

Yn gyffredinol, i fod yn gymwys i gael cymorth gan y Gronfa Byw’n Annibynnol (1993), mae’n rhaid:

  • eich bod rhwng 16–66 oed pan wneir y taliad cyntaf ichi gan y Gronfa;
    eich bod yn derbyn elfen ofal y Lwfans Byw i’r Anabl a hynny ar y raddfa uchaf;
  • eich bod yn byw ar eich pen eich hun neu gyda phobl nad ydynt yn gallu gofalu amdanoch yn llwyr;
  • bod perygl y bydd yn rhaid ichi gael eich derbyn i gartref preswyl (neu eich bod yn byw mewn cartref preswyl ar hyn o bryd ac yn dymuno gadael a byw’n annibynnol);
  • bod gennych lai na £18,500 o gynilion. Nid ystyrir cynilion o hyd at £11,500 a defnyddir tariff incwm ar gyfer cynilion rhwng £11,500 a £18,500;
  • eich bod yn derbyn gwerth o leiaf £200 (net) o wasanaethau a/neu arian parod gan eich awdurdod lleol bob wythnos a’ch bod yn gallu byw’n annibynnol yn y gymuned am 6 mis o leiaf.

Sut y byddaf yn defnyddio’r Gronfa Byw’n Annibynnol?
 
I gael cymorth, mae’n rhaid ichi fodloni meini prawf eraill.

Mae’n rhaid defnyddio unrhyw gyllid gan y Gronfa Byw’n Annibynnol (1993) i gyflogi un neu ragor o gynorthwywyr gofal. Ni ellir defnyddio’r arian i dalu am bethau megis offer, trafnidiaeth neu addasu’r cartref.

Ni ellir defnyddio’r Gronfa ychwaith i dalu cyflog perthynas agos, sy’n gweithio fel cynorthwy-ydd personol ac sy’n byw yn yr un tŷ â chi.

I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys ffurflen gais, cysylltwch â Chydgysylltydd y Gronfa Byw’n Annibynnol, Cyngor Sir Caerfyrddin neu â’r Gronfa Byw’n Annibynnol (1993).

 


Tudalen wedi ei diweddaru ar 01/10/2008

 
Manylion Cysyllt
 

0845 601 8815 – Y Gronfa Byw’n Annibynnol

Gallwch gysylltu â Chydgysylltydd y Gronfa Byw’n Annibynnol drwy ysgrifennu i:-

4 Teras Coleshill
Llanelli
SA18 3DB

neu drwy ffonio: 01554 744207