Taliadau am wasanaethau gofal cymdeithasol
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 18/10/2010
Taliadau am wasanaethau gofal cymdeithasol 

Bydd angen i bobl sy'n derbyn gwasanaethau gofal cymdeithasol gael asesiad ariannol er mwyn gweld a oes modd iddynt dalu ac os felly, faint y gallant fforddio ei dalu.  Mae gan y Cyngor un tâl am:

  • Prydau bwyd mewn canolfannau gofal dydd
  • Cludiant i ganolfannau gofal dydd
  • Prydau Cymunedol
  • Gwasanaethau golchi dillad
  • Gwasanaethau Warden a'r Llinell Gofal

Mae pawb sy'n defnyddio'r gwasanaethau hyn yn talu'r un tâl.  Penderfynir ar daliadau'r holl Wasanaethau Gofal Cymdeithasol eraill gan asesiad ariannol er mwyn cyfrifo faint y gall person fforddio ei dalu. 

Caiff yr asesiadau ariannol eu cynnal gan y Tîm Asesu Taliadau Tecach a nhw hefyd fydd yn helpu i sicrhau eich bod chi'n derbyn yr holl fudd-daliadau y mae hawl gennych iddynt, ac yn eich helpu chi i gwblhau unrhyw ffurflenni sydd yn angenrheidiol.

Gallwch ddewis peidio â chael asesiad ariannol os ydych yn dymuno ond bydd hyn yn golygu y gallai fod yn rhaid ichi dalu'n llawn am gostau eich gofal.

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch asesiadau ariannol, lawrlwythwch y daflen 'Canllaw i daliadau am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol 2010-2011' neu cysylltwch â'r Tîm Asesu Taliadau Tecach drwy ffonio   01267 228977.

 

 
Manylion Cysyllt
 

Tîm Asesu Taliadau Tecach
Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Thai
3 Spilman Street
Carmarthen
SA31 1LE
01267 228977