Yn yr Adran Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Thai rydym yn gweithio i gadw pobl yn iach, yn hapus ac yn ddiogel yn Sir Gaerfyrddin. Rydym ni’n gweithio gyda phobl yn ein cymuned sydd ag angen cymorth, gofal neu ddiogelwch.
Rydym yn helpu pobl sydd ag amrywiaeth eang o anghenion iechyd a gofal cymdeithasol megis pobl hŷn sy'n gadael yr ysbyty, oedolion â salwch neu anabledd a phobl sydd ag angen cymorth i ofalu am rywun arall.
Yn y rhan hon o'r wefan, cewch wybodaeth am wasanaethau iechyd meddwl, gwasanaethau i bobl ag anableddau dysgu ac arweiniad am ofal preswyl neu ofal nyrsio.
Gallwch gysylltu â'n timau Gofal Cymdeithasol drwy ffonio 01267 224421.