English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Beth Ydym Ni'n Gwneud 

 

• Beth yw’r Rhaglen Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol?
• Pwy sy’n arwain y rhaglen hon yn Sir Gaerfyrddin?
• Beth yw nodau ac amcanion y RhDGGC?
• Pwy yw partneriaid y RhDGGC yn Sir Gaerfyrddin?
• Beth yw Gofal Cymdeithasol mewn Partneriaeth – De-orllewin Cymru (GCmP-DC)?
• A oes diagram i ddangos sut mae popeth yn dod ynghyd?
• Pa drefniadau a wnaed gan yr Uned Hyfforddi i  fodloni gofynion y Rhaglen Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol?
• Sut awn ati?
• Beth yw’r Sector Annibynnol?
• Pwy yw’r partner asiantaethau?
• Beth am gostau?
• Sut allaf gael y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch yr hyfforddiant?

 

 Beth yw'r Rhaglen Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol?  Top
Mae’r Rhaglen Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol, neu’r Bartneriaeth Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol (RhDGGC) fel y’i gelwir weithiau, yn darparu arian grant i weithredu’r canllawiau yn y ‘Cynlluniau ar gyfer Hyfforddiant a Datblygu Staff ar draws y Sector Gofal Cymdeithasol’ a gyhoeddwyd gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) ym mis Gorffennaf  2003.  Yn un o’r cyrff sy’n gweithredu’n annibynnol ar Lywodraeth Cynulliad Cymru ac yn atebol i Gynulliad Cymru, mae’r Arolygiaeth yn estyn gwahoddiad bob blwyddyn (ym mis Mawrth fel arfer) i’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru wneud cais am arian ar ran eu Partneriaethau.

 Pwy sy'n arwain y rhaglen hon yn Sir Gaerfyrddin?  Top
Y swyddog arwain yw Cyfarwyddwr Adran Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Thai y Cyngor.  Tîm o staff yn isadran Swyddfa’r Cyfarwyddwr yw’r Uned Hyfforddi sy’n darparu cymorth dysgu a datblygiad proffesiynol i’r rheiny sy’n darparu gwasanaeth gofal cymdeithasol i bobl yn Sir Gaerfyrddin.  Mae’r Uned Hyfforddi yn gyfrifol am baratoi’r cais am arian a chynlluniau’r bartneriaeth ynghylch ei wario. 

 Beth yw nodau ac amcanion y RhDGGC?  Top

Mae’r AGGCC yn paratoi canllawiau bob blwyddyn ar ffurf ‘cylchlythyr’ er darparu gwybodaeth i Gyfarwyddwyr Gofal Cymdeithasol ynghylch paratoi a chyflwyno eu RhDGGC.  Mae detholiad o’r cylchlythyr yn nodi:
‘Bras nod y RhDGGC yw gwella ansawdd a rheolaeth y modd y darperir gwasanaethau cymdeithasol drwy gyfrwng hyfforddiant wedi’i gynllunio a cheisio cynyddu’r nifer sy’n derbyn hyfforddiant ar draws y sector gofal cymdeithasol.  Amcan y RhDGGC yw:
• Cynyddu cyfran y staff ar draws yr holl sector gofal cymdeithasol sy’n meddu ar y cymwysterau, y sgiliau a’r wybodaeth y maent eu hangen, ar gyfer y gwaith a wnânt,
• Cyflawni’r uchod drwy’r RhDGGC a arweinir gan awdurdodau lleol ac a seilir ar wybodaeth comisiynwyr gwasanaethau awdurdodau lleol,
• Mae gweithredu’r RhDGGC a’i ddatblygu ymhellach yn parhau i fod yn flaenoriaeth bwysig yn y fframwaith ‘Creu’r Cysylltiadau – Cyflawni ar draws Ffiniau’ a ‘Bywydau Bodlon: Cymunedau Cefnogol.  Strategaeth ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru dros y Degawd nesaf’.

Aiff y cylchlythyr ymlaen i nodi:
• ‘Mae grant y RhDGGC ar gael i gefnogi gwasanaethau a gomisiynir.  Gan mai prif adnodd darparwyr gwasanaethau gofal yw staff, rhaid i’w datblygiad a’u hanghenion o ran hyfforddiant gael ei gynllunio, ei gyllido, ei gyflawni a’i werthuso.  Y cyflogwr sy’n parhau i fod yn bennaf gyfrifol am y tasgau hyn a bwriad y RhDGGC yw ychwanegu at yr adnoddau hyfforddiant sydd gan y cyflogwr.’

 

Pwy yw partneriaid y RhDGGC yn Sir Gaerfyrddin?  Top

Mae’r Uned Hyfforddi, dan arweiniad y Rheolwr Datblygu’r Gweithlu yn cadeirio’r ‘Grŵp Strategaeth Partneriaeth Hyfforddiant Sir Gaerfyrddin.  Unigolion o’r gwasanaethau a’r sefydliadau canlynol sy’n llunio aelodaeth y grŵp ar hyn o bryd:
Cynrychiolwyr Cyngor Sir Caerfyrddin (Hyfforddiant, Comisiynu a Chontractio, Adnoddau Dynol, Prosiectau a Chynllunio)
Cynrychiolwyr y Gwasanaethau Iechyd (Ymddiriedolaeth GIG Hywel Dda)
Cynrychiolwyr y Gwasanaethau Gwirfoddol (Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin)
Cynrychiolwyr y Gwasanaethau Gofal Cartref (Cerecare)
Cynrychiolwyr y Gwasanaethau Preswyl (Swanton Care)
Cynrychiolwyr y Gwasanaethau Annibynnol (The Rowan Organisation)
Cynrychiolwyr y Bartneriaeth Ranbarthol (Gofal Cymdeithasol mewn Partneriaeth – De-orllewin Cymru)

Y grŵp hwn, ynghyd â’r Fforwm Darparwyr, sy’n helpu i lywio a darparu gwybodaeth er datblygu grant y RhDGGC ar gyfer Sir Gaerfyrddin.  Mae’r Uned Hyfforddi yn paratoi at gynyddu aelodaeth y Grŵp Strategaeth Partneriaeth Hyfforddiant Sir Gaerfyrddin yn ystod y misoedd nesaf ac ail lansio ei ddiben. Os dymunwch gael mwy o wybodaeth ynghylch ymaelodi, cysylltwch â’r Uned Hyfforddi drwy gyfrwng un o’r dulliau cysylltu a nodir yn y manylion cyswllt.  I gael gwybodaeth am y Fforwm Darparwyr cysylltwch â Chomisiynu a Chontractio Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yr Adran hon.

Beth yw Gofal Cymdeithasol mewn Partneriaeth – De-orllewin Cymru (GCmP-DC)?  Top
Cyngor Gofal Cymru sy’n cyllido’r Partneriaethau Gofal Cymdeithasol Rhanbarthol a sefydlwyd i alluogi cyflogwyr a rhanddeiliaid allweddol eraill yn y sector gofal cymdeithasol, i weithio ar y cyd i ymdrin â rhai o’r heriau sy’n wynebu’r sector ym mhob rhanbarth wrth geisio cadw, recriwtio a datblygu gweithlu.  Perthyn Grŵp Strategaeth Partneriaeth Hyfforddiant Sir Gaerfyrddin i ranbarth GCmP-DC sy’n un o’r pedwar partneriaeth yng Nghymru.  Mae GCmP-DC yn ymgorffori siroedd Castell-nedd Port Talbot, Abertawe, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.  Rôl y Partneriaethau hyn yw darparu persbectif rhanbarthol a dylanwadu ar bolisïau strategol a ddatblygir a gwella a chefnogi ‘r sector gofal cymdeithasol ar draws Cymru a chodi ymwybyddiaeth ohono.   Mae aelodaeth o’r grŵp hwn yn DDI-DÂL, a gall unigolion (neu eu sefydliadau) gael mwy o wybodaeth drwy ddefnyddio’r cyswllt canlynol i gyrchu www.ssiacymru.org.uk/index.  Mae pob un o’r pedair sir yn cyfrannu cyllid o’u RhDGGC i gyllido swydd Cydgysylltydd i fynd rhagddo â nodau’r grwpiau unigol a darparu adborth ar gyfer aelodau GCmP-DC.

A oes diagram i ddangos sut mae popeth yn dod ynghyd?

 Top
 Diagram y Rhaglen

Pa drefniadau a wnaed gan yr Uned Hyfforddi i  fodloni gofynion y Rhaglen Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol?  Top

Rhan o Swyddfa’r Cyfarwyddwr yw’r Uned Hyfforddi. Mae Swyddfa’r Cyfarwyddwr yn gyfrifol am amrywiol swyddogaethau allweddol ac yn eu plith mae datblygu a hyfforddi staff.  Rheolir yr Uned Hyfforddi gan y Rheolwr Datblygu’r Gweithlu sy’n gyfrifol am gyflwyno’r RhDGGC flynyddol.  Cefnogir y Rheolwr Datblygu’r Gweithlu gan dîm o staff hyfforddi sy’n anelu at gyflawni nodau ac amcanion y RhDGGC.  Er bod gweithgareddau datblygu a hyfforddi yr Adran Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Thai yn canolbwyntio’n bennaf ar y RhDGGC mae cynlluniau hyfforddi a datblygu eraill ar gael yn cynnwys Cronfa Cyfleoedd Ymarfer wrth Hyfforddi (PLOF) ac ymrwymiad yr Adran i ddatblygu ei wasanaethau a’i staff ei hun.

Mae’r staff hyfforddi yn cydweithio i ddatblygu a darparu ystod o raglenni hyfforddiant yn ymateb i’r canllawiau a’r targedau a nodir yn y cylchlythyr.  Y prif erfyn sy’n sicrhau bod yr uned yn rheoli’i hadnoddau yn effeithlon yw’r cylch blynyddol o gynlluniau busnes a ddarperir er cyflwyno’r RhDGGC flynyddol.  Y broses hon sy’n gyrru’r gwaith o ddatblygu’r “Cynlluniau Hyfforddiant”.  Mae swyddogion unigol yn paratoi cyrsiau hyfforddiant i fodloni anghenion y gweithlu ac yn gweithio gyda gwasanaethau i weithredu ystod o ddigwyddiadau hyfforddiant.  Rydym yn casglu gwybodaeth ynghylch yr anghenion hyfforddiant drwy fynychu cyfarfodydd o fforwm y darparwyr er enghraifft. Rydym hefyd yn gweithio gyda rheolwyr a sefydliadau, megis ein cydweithwyr yn y maes iechyd, awdurdodau lleol eraill a gwasanaethau statudol, e.e. yr heddlu, i gynllunio cyrsiau hyfforddiant yn effeithiol yn unol â’r newidiadau mewn deddfwriaeth a safonau.  Mae hyn oll yn ein helpu i flaenoriaethu a chynllunio.

 Sut awn ati?  Top

Seilir ein hymagwedd ar ‘un sector - un gweithlu’, sy’n golygu cynnig mynediad i hyfforddiant i wasanaethau wedi’u comisiynu a heb eu comisiynu yn Sir Gaerfyrddin.  Er ein cynorthwyo i fodloni’r canllawiau a bennir yn y cylchlythyr blynyddol,  nid yw’r cyfleoedd hyfforddi a gynigiwn i wasanaethau’r sector annibynnol yn diddymu cyfrifoldeb y sector hwnnw i ddatblygu ei staff ei hun.  Cefnogi a galluogi yw’r dulliau a ddefnyddir gennym.  Rydym yn cefnogi drwy drefnu cyrsiau hyfforddiant a neilltuo llefydd.  Rydym yn galluogi drwy helpu gwasanaethau i ddatblygu eu rhaglenni hyfforddiant mewnol eu hunain.  Mae’r Uned Hyfforddi yn paratoi cynlluniau hyfforddiant blynyddol i fodloni cynifer â phosib o’r anghenion hyfforddiant.  Rydym hefyd yn gweithio mewn cyswllt agos gyda phartner asiantaethau i glustnodi cyfleoedd hyfforddi ar y cyd pan fo’n briodol.  Bydd y digwyddiadau hyfforddiant sydd ar gael i’r sector annibynnol a/neu bartner asiantaethau yn dibynnu ar y grŵp targed a glustnodwyd ar gyfer pob gweithgaredd hyfforddiant .  Ni fydd yr holl ddigwyddiadau hyfforddiant a nodir gennym yma yn berthnasol i bob gwasanaeth neu bartner asiantaethau yn y sector annibynnol.  Bydd pob gweithgaredd hyfforddiant yn cynnwys gwybodaeth am y grwpiau o bobl yr anelwyd yr hyfforddiant atynt, h.y. y grwpiau targed.

 

 Beth yw’r Sector Annibynnol?  Top

Mae’r ‘Sector Annibynnol’ yn cynnwys pob unigolyn cyflogedig a gwirfoddolwr sy’n gweithio i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin, na chyflogir yn uniongyrchol gan y Cyngor Sir nac unrhyw wasanaeth statudol arall megis Ymddiriedolaeth GIG, y Bwrdd Iechyd Lleol, yr heddlu, y gwasanaeth prawf a AGGCC.  Mae esiamplau yn cynnwys sefydliadau neu asiantaethau gofal preifat a gwirfoddol, cynorthwywyr/gofalwyr personol a gyflogir dan drefniadau Taliadau Uniongyrchol neu Gronfa Byw yn Annibynnol (ILF), gofalwyr maeth a gofalwyr Oedolion a Leolir.  Fe ddylech ateb “ydym” i’r ddau gwestiwn canlynol cyn cyflwyno eich cais am hyfforddiant dan y RhDGGC:

• Ydych chi’n darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin?
• Ydych chi’n weithiwr cyflogedig (neu’n wirfoddolwr) un o’r gwasanaethau canlynol:  cartref gofal, gofal cartref, gofal dydd, gwasanaeth seibiant, byw â chymorth, gwasanaeth maeth, cynllun lleoli oedolion, cynorthwyydd personol a gyflogir dan drefniadau taliadau uniongyrchol neu Gronfa Byw’n Annibynnol, gwaith prosiect, gwaith cymunedol, gwasanaeth gwybodaeth, gofalwyr teulu a defnyddwyr gwasanaeth?

 Pwy yw’r partner asiantaethau?  Top

Sefydliadau statudol eraill yw ‘partner asiantaethau’ yr ydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda hwy i fodloni ein cydgyfrifoldebau statudol.  Yn  Sir Gaerfyrddin mae ein partneriaid yn cynnwys Ymddiriedolaeth GIG Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Lleol Sir Gaerfyrddin, GGCC, Heddlu Dyfed Powys, Gwasanaeth Erlyn y Goron a’r Gwasanaeth Prawf.

Ein hamcenion:

• Meithrin ac annog ‘arferion gorau’ wrth hyfforddi a datblygu’r gweithlu ar draws yr holl sector Gofal Cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin.
• Sicrhau / gwella cysondeb y safonau hyfforddiant ar draws y sector Gofal Cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin.

Os oes anghenion datblygu a glustnodwyd heb gael eu diwallu gan y gweithgareddau hyfforddiant a nodir yma, rhaid i gyflogwyr y Sector Annibynnol gyllido neu ddarparu’r hyfforddiant hwnnw eu hunain.

 Beth am gostau?  Top
Ni chodir tâl am fynychu’r hyfforddiant a drefnir drwy’r RhDGGC.  Pan fydd digwyddiadau hyfforddiant ar gyfer ‘partner asiantaethau’ mae’n bosib y gallai’r sefydliadau perthnasol ddod i gytundeb ynghylch rhannu’r costau rhwng yr asiantaethau. Ar y sail hon gallai’r partner arwain fod yn gyfrifol am drefnu’r digwyddiad ac am rannu ac adennill y costau.

Sut allaf gael y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch yr hyfforddiant? Top 
I ddechrau gwnewch yn siŵr y gall eich sefydliad ateb ‘Ydym’ i’r cwestiynau a ofynnwyd yn gynharach ynghylch pwy all fanteisio ar yr hyfforddiant. Sicrhewch hynny’n gyntaf.  Os nad ydych yn siŵr, cysylltwch â’r Uned Hyfforddi drwy gyfrwng un o’r dulliau cysylltu a nodir yn y Manylion Cyswllt. Rydym yn cadw cronfa ddata o sefydliadau sy’n mynychu ein cyrsiau hyfforddiant, a byddwn yn fwy na pharod i ychwanegu eich manylion at y rhestr hon os byddwch am gael y wybodaeth ddiweddaraf am hyfforddiant perthnasol. 

Tudalen wedi ei diweddaru ar 22/3/2010
 
Manylion Cysyllt
 

Uned Hyfforddi
Swyddfa’r Cyfarwyddwr
3 Heol Spilman
Caerfyrddin
SA31 1LE

Ffon: 01267 224826
Fax: 01267 223074