Mae gennym amrywiol ffyrdd ar gyfer derbyn taliadau am wasanaethau.
Telir am nifer o'r gwasanaethau ar yr adeg y maent yn cael eu darparu - megis nofio a pharcio, ond mae gwasanaethau eraill, megis ceisiadau cynllunio, y gellir talu amdanynt drwy anfon siec gyda'r ffurflenni yr ydych wedi'u llenwi.
Rydym hefyd yn eich annog i ddefnyddio debyd uniongyrchol ble bynnag y bydd hynny'n briodol - yn neilltuol ar gyfer talu Treth y Cyngor.
Yn ogystal rydym yn cynnig cyfleusterau i dalu am wasanaethau ar-lein drwy ddefnyddio'r gwasanaethau isod.
Taliadau Electronig

Drwy ddefnyddio'r gwasanaeth taliadau ar-lein gallwch dalu eich biliau Cyngor gydag un o'r mathau canlynol o gardiau credyd/debyd (Visa, Mastercard, Switch, Visa Delta, Solo, Electron)
Gallwch dalu am y gwasanaethau canlynol:
- Treth y Cyngor
- Trethi Busnes
- Rhenti Tai
- Amrywiol Anfonebau
- Morgeisi
- Gordaliadau budd-dâl
Os ydych mewn man cyhoeddus rydym yn eich cynghori'n ddifrifol i sicrhau nad oes neb yn gallu gweld y manylion yr ydych yn eu bwydo i'r peiriant rhag iddynt cael eu camddefnyddio gan rywun arall.
Cliciwch i gael mynediad i'r Taliadau Electronig
Porth Cynllunio
Gallwch gwblhau, cyflwyno a thalu am gais cynllunio drwy ddefnyddio'r Porth Cynllunio.
Mae'r gwasanaeth ceisiadau ar-lein yn caniatáu i chi anfon ceisiadau cynllunio atom drwy'r Porth Cynllunio.
Gallwch : ddechrau cais cynllunio newydd a thalu ar-lein/gyda siec neu weithio ar gais sy'n bodoli eisoes.
Cliciwch i gael mynediad i'r Porth Cynllunio