Dyma rai diffiniadau i’ch helpu i ddeall y gwahaniaethau rhwng llwybr cerdded, llwybr ceffylau a chilffordd. Gobeithiwn y bydd y wybodaeth hon yn ddefnyddiol ichi.
Llwybrau Cyhoeddus
Gellir defnyddio llwybrau cerdded cyhoeddus gan gerddwyr ac mae hynny’n cynnwys defnyddwyr cadeiriau olwyn a phobl yn gwthio pramiau neu gadeiriau gwthio. Fel gyda phob hawl tramwy cyhoeddus, gallwch hefyd fynd â chi, er y bydd rhaid ichi ei gadw ar dennyn neu o dan reolaeth agos o fath arall ar rai llwybrau.
Nid oes unrhyw hawl reidio beic pedal ar hyd llwybr cerdded cyhoeddus, er bod rhai tirfeddianwyr unigol yn caniatáu beicio ar rai llwybrau sy’n llwybrau cerdded cyhoeddus e.e. rhai rhannau o lwybrau halio ar gamlesi sydd yng ngofal Dyfrffyrdd Prydeinig.
Dylech ofalu eich bod yn gwahaniaethu rhwng llwybr cerdded cyhoeddus' a 'llwybr troed'. Nid yw llwybrau gerllaw ffyrdd cyhoeddus yn llwybrau cerdded cyhoeddus – mae’n well eu galw’n llwybrau troed neu’n balmentydd. Nid yw llwybrau troed yn cael eu cofnodi ar y map diffiniol yn hawliau tramwy cyhoeddus. Mae llwybr troed mewn gwirionedd yn rhan o’r briffordd, sydd wedi cael ei neilltuo ar gyfer cerddwyr. Cysylltwch â’r swyddfa briffyrdd leol i gael cyngor ar lwybrau troed.
Llwybrau ceffylau
Yn hanesyddol, bu llwybrau ceffylau ar gael i gerddwyr a marchogion ceffylau. Gallwch hefyd arwain ceffyl ar hyd llwybr ceffylau. Mae’r hawliau hyn hefyd yn berthnasol i fulod ac asynnod ond nid, er enghraifft, i lamaod neu anifeiliaid eraill.
Rhoddodd Deddf Cefn Gwlad 1968 yr hawl i feicwyr ddefnyddio llwybrau ceffylau. Fodd bynnag, mae’n rhaid i feicwyr ildio i gerddwyr a marchogion ceffylau ar lwybrau ceffylau.
Ni roddodd y Ddeddf ddyletswydd ar awdurdodau priffyrdd i ofalu am lwybrau ceffylau i safon sy’n addas i feicwyr, ac o’r herwydd ni fydd rhai yn arbennig o addas ar gyfer beicio, hyd yn oed ar gyfer beiciau mynydd. Fodd bynnag, mae’r ymgyrch yn y blynyddoedd diwethaf i annog mwy o feicio yn golygu bod mwy o sylw’n cael ei roi ar hyn o bryd i anghenion beicwyr – ar yr amod nad yw’r gwelliannau ar gyfer beicwyr ar draul pobl fel marchogion ceffylau.
Weithiau, gelwir llwybrau ceffylau yn llwybrau marchogaeth. Efallai weithiau y dewch ar draws y term 'llwybr cyhoeddus' sy’n cynnwys llwybrau cerdded cyhoeddus a llwybrau ceffylau.
Ffyrdd a ddefnyddir fel llwybrau cyhoeddus a Chilffyrdd cyfyngedig
'Ffordd a ddefnyddir fel llwybr cyhoeddus’ yw un o’r tri chategori gwreiddiol o hawl tramwy cyhoeddus, a gyflwynwyd gan Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949. Bu’r term yn un dryslyd, gan ei fod yn cwmpasu nifer o lwybrau gwahanol, llawer ohonynt yn lonydd gwyrdd, rhai ohonynt yn cynnwys hawliau cerbydau cyhoeddus ac eraill ddim, yn ogystal â hawliau i gerddwyr a marchogion ceffylau.
Bu gan bob awdurdod priffyrdd ddyletswydd i ail-ddosbarthu llwybrau RUPP yn eu hardal ers dyfodiad Deddf Cefn Gwlad 1968 (a ddiwygiwyd yn ddiweddarach gan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981). Hyd yn ddiweddar bu Cyngor Sir Caerfyrddin yn cynnal rhaglen o ymchwilio ac ail-ddosbarthu ei lwybrau RUPP. Cafodd pob un ohonynt eu hail-ddosbarthu’n llwybr ceffylau, oni phrofwyd fod hawliau cerbydau cyhoeddus yn bodoli ar hyd y llwybr, ac mewn sefyllfa felly daeth yn ‘gilffordd sy’n agored i bob trafnidiaeth'. Mewn nifer fechan iawn o sefyllfaoedd, dangoswyd nad oedd hawliau cerbydau cyhoeddus a hawliau ceffylau cyhoeddus ar hyd llwybr RUPP, ac yn y sefyllfaoedd hynny, cafodd y llwybr ei ail-ddosbarthu’n llwybr cerdded cyhoeddus.
Bu’r broses yn un hirfaith iawn, gan y bu’n rhaid i’r ymchwil fod yn drylwyr. Er gwaetha’r holl ymchwil, arweiniodd y rhan fwyaf o’r ail-ddosbarthu at ymchwiliadau cyhoeddus, gan ychwanegu fwy fyth at y costau a’r oedi. Mae’n bwysig cofio y bu’n gyfreithiol ofynnol ar y Cyngor Sir i ail-ddosbarthu pob llwybr RUPP ar sail tystiolaeth o statws (yn ddogfennol a thrwy ddefnydd), yn hytrach nac ar addasrwydd ffisegol y llwybr ar gyfer un math o ddefnydd neu’i gilydd.
Mae Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 yn ceisio datrys y broblem trwy ail-ddosbarthu’n awtomatig yr holl lwybrau RUPP eraill yn ‘gilffyrdd cyfyngedig’. Hawliau’r cyhoedd ar ‘gilffordd gyfyngedig’ yw
• ar droed
• ar gefn ceffyl neu’n arwain ceffyl
• mewn cerbyd ac eithrio cerbydau gyriant mecanyddol
Ystyr yr olaf yw y gallwch fynd â beic pedal neu gerbyd tynnu â cheffyl ar hyd ‘cilffordd gyfyngedig’ ond na allwch fynd â beic modur neu gerbyd modur arall ar hyd un.