Mae’r Cyngor yn cymryd rhan yng nghynllun prawf Llywodraeth Cynulliad Cymru fel rhan o Her Iechyd Cymru, er mwyn annog pobl i sicrhau bod ymarfer corff yn rhan o’u bywydau bob dydd. Nid oes angen i chi lenwi ffurflenni na chofrestru, ac yn sicr, nid oes angen esgidiau arbennig, leotard, trowsus byr nac unrhyw lycra arnoch. Yr unig beth sydd angen i chi ei wneud yw cerdded rhywfaint yn ystod eich egwyl ginio (neu hyd yn oed cyn dod i’r gwaith os ydych chi’n awyddus iawn!)
Mae’r prosiect prawf yn cynnwys llunio taflenni dwyieithog sy’n mapio ac yn disgrifio 6 llwybr cerdded syml o amgylch tref Caerfyrddin. Mae’r daflen Teithiau Trefol yn nodi nifer y camau ar gyfer pob taith, ynghyd â phellter y teithiau mewn milltiroedd. Yn ogystal, mae’r taflenni yn rhoi cyngor defnyddiol ynglŷn â chynyddu hyd y teithiau wrth i’ch lefelau ffitrwydd wella.
Bydd taflenni ar gael ar gyfer Llanelli a Phorth Tywyn maes o law, ond hwn yw eich cyfle chi i roi cynnig ar y prosiect am y tro cyntaf, ac i wella eich ffitrwydd a’ch iechyd!
I gael o rhagor wybodaeth a taflenni o'r:
Dderbynfa yn swyddfa, 3 Spilman St
Neu fel arall cysylltwch â’r Swyddog Strategaeth Trafnidiaeth ar 01267 224336