English |  Hepgor gwe-lywio | Testun yn Unig |  Newid maint y testun AAA
Gwasanaethau Digidol: Llif Newyddion | fersiwn symudol | Teledu Digidol
Hawliau Tramwy  
rights of way - country walk sign post

Mae Hawl Tramwy Cyhoeddus yn llwybr y mae gan y cyhoedd hawl cyfreithiol trwy Gyfraith Priffyrdd i’w dramwyo a’i ail-dramwyo.

Mae Hawliau Tramwy i’w gweld mewn trefi, pentrefi ac yng nghefn gwlad. Mae arwyneb ar rai llwybrau ond mae’r rhan fwyaf yn draciau a chaeau sy’n eiddo i dir berchnogion.

Ni ddylid cymysgu llwybrau cyhoeddus gyda llwybrau priffyrdd er enghraifft, sef palmentydd ar ochr y ffordd.

Sut i Adnabod Hawl Tramwy Cyhoeddus

Yr enw cyffredin ar hawliau tramwy cyhoeddus yw llwybrau cerdded cyhoeddus, llwybrau ceffylau cyhoeddus a chilffyrdd cyhoeddus.  Oherwydd hyd y rhwydwaith, ac weithiau, anghysondebau cyfreithiol ynghylch y Map Diffyniadol, nid oes arwyddion ar bob Hawl Tramwy.

Fodd bynnag, mae’r Cyngor Sir yn ceisio gofalu fod arwyddion ar bob llwybr poblogaidd. Fe welwch y disgiau nodi llwybr canlynol ar arwyddbyst neu mewn mannau amlwg ar hyd y llwybrau.
 
Mae Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn briffyrdd cyhoeddus ac fe’u cofnodir ar Fap a Datganiad Diffyniadol (cofnod cyfreithiol o Hawliau Tramwy Cyhoeddus). Y Cyngor Sir sy’n gyfrifol am gadw’r map hwn yn gyfredol. Y Map Diffyniadol yw’r unig ffynhonnell manwl-gywir a chyfredol o wybodaeth ar Hawliau Tramwy Cyhoeddus.

Mae’r map i’w weld yn y mannau canlynol:

Yr Uned Hamdden a Chefn Gwlad
Hawliau Tramwy Cyhoeddus
Parc Coetir y Mynydd Mawr –  
Heol Hirwaun Olau,
Y Tymbl, Llanelli.
SA14 6HU

Tudalen wedi ei diweddaru ar 13/12/2011