Beth yw Hawl Tramwy Cyhoeddus?
Ystyr Hawl Dramwy Gyhoeddus yw llwybr y mae gan y cyhoedd hawl gyfreithiol i'w ddefnyddio o dan y Deddfau Priffyrdd. Mae Hawliau Tramwy i'w cael mewn trefi a phentrefi ac yng nghefn gwlad. Mae'n bosibl fod wyneb o ryw fath ar rai o'r llwybrau hyn, ond mae'r rhan fwyaf ohonynt yn llwybrau trwy gaeau sy'n eiddo i berchenogion tir. Ni ddylid cymysgu rhwng hawliau tramwy cyhoeddus a throedffyrdd, er enghraifft, palmentydd ar ymyl ffordd.
Sut Mae Adnabod Hawl Dramwy Gyhoeddus
Mae Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn cynnwys llwybrau cyhoeddus, llwybrau ceffylau cyhoeddus a chilffyrdd cyhoeddus. Oherwydd maint anferth y rhwydwaith ac, mewn rhai achosion, oherwydd anghysonderau cyfreithiol yn y Map Swyddogol, nid oes arwyddion ar yr holl Hawliau Tramwy. Fodd bynnag, mae'r Cyngor Sir yn ceisio sicrhau bod arwyddion ar yr holl lwybrau poblogaidd. Mae'r arwyddion canlynol i'w gweld ar byst neu mewn mannau amlwg ar hyd y llwybrau.
Mae Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn briffyrdd cyhoeddus, ac felly maent wedi eu cofnodi ar y Map Swyddogol a'r Datganiad Swyddogol (sef y cofnod cyfreithiol o Hawliau Tramwy Cyhoeddus). Y Cyngor Sir sy'n gyfrifol am sicrhau bod y map hwn yn cael ei ddiweddaru drwy'r amser. Y Map Swyddogol hwn yw'r unig ffynhonnell wybodaeth fanwl-gywir a chyfamserol ynghylch Hawliau Tramwy Cyhoeddus. Gellir cael golwg ar y map hwn yn y mannau canlynol:
Y Ganolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid
3 Heol Spilman
Caerfyrddin
Adeiladau’r Cyngor
Heol Cilgant
Llandeilo
Yr Uned Hamdden, Mynediad a Chefn Gwlad
Parc Coetir y Mynydd Mawr
Heol Hirwaun Olau
Y Tymbl, Llanelli
SA14 6HU
Ffôn: 01554 747530