English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 15/7/2009
Gwybodaeth Cyffredinol 

Nodiadau Llywio
Mae’r postyn baril yn nodi’r fynedfa i sianel â bwiau wedi’u goleuo.  Bydd seiren yn seinio pan fydd y glwyd yn symud.  Mae goleuadau traffig wrth y fynedfa’n dangos pryd y bydd yn ddiogel i fynd i mewn ac allan.  Mae’r amseroedd mynediad yn amrywio yn ôl uchder y llanw.  Ffoniwch Swyddfa’r Harbwr i gael gwybodaeth bellach.
Lleoliad Pwynt Cyfeirio (Waypoint) (postyn baril)
51º40’46N
004º15’01W
(WGS 84 datum)
Siartiau 1076, 1167
OS 164,178

Morio
I’r sawl sydd am hwylio’n lleol mae Moryd Llwchwr yn gilfach gymharol ddiogel, ond dylai sgiperiaid ymgyfarwyddo â’r amrediad llanw eang ac mae yno sawl cerrynt cyflym. I forwyr mwy anturus, mae’r marina yn ganolfan ddelfrydol i grwydro Penrhyn Gŵyr, Bae Caerfyrddin ac arfordir Sir Benfro -  heb sôn am fentro ymhellach i gyffiniau’r Ynys Wair (Lundy) ac Iwerddon.

Moesau ac Arferion y Marina
Gofynnir i gwsmeriaid glymu eu hwylraffau yn ôl o’r mast.  Peidiwch â phwmpio dwr twll sbydu na halogion i mewn i’r marina.  Nodwch fod cyfyngiad cyflymder o 3 not.  Dylid goruchwylio plant ac fe’u hanogir i wisgo siacedi achub bob amser.

Parcio
Gall deiliaid angorfeydd ac ymelwyr ag angorfeydd barcio ar ochr ddwyreinol neu ochr orllewinol y marina a dylent ddangos eu trwyddedau, sydd ar gael o swyddfa’r harbwr.  Dylai pob ymwelydd arall ddefnyddio’r peiriannau talu ac arddangos.

Tollau Tramor a Chartref
0845 109000

Ysbwriel
Rhaid gadael ysbwriel domestig mewn bagiau wedi’u selio yn y sgip ar ben y bont fynedfa.
Rhaid gadael olew a batris gwastraf yn y cyrtiau ar ben slip doc y gorllewin a 50m o fynedfa’r pontwm allanol.

Ffônau
Mae’r ffônau argyfwng yn ymyl gorsaf gwylwyr y glannau ar yr ochr ddwyreiniol ac adeilad y glwyd fflap ogwyddo ar yr ochr orllewinol.

Dwr
Mae pibelli dwr ar gael ar gyfer pob angorfa.  Os gwelwch yn dda, torchwch y bibell yn ôl wedi’i defnyddio a pheidiwch â gadael pen y bibell yn y dwr gan nad yw hwn yn hylan.

Diogelwch
Mae yna glwyd hunan-gloi ar y fynedfa a cheir mynediad gydag allwedd ddiogelwch sydd ar gael o swyddfa’r harbwr.  Gweithredir system teledu cylch cyfyng (CCTV) ar hyd y marina i gyd.

Cyflenwad Trydan
Mae pob cyflenwad trydan yn cael ei ddiogelu gan dorwyr cylched mini 16A a chan dorwyr cerrynt gweddillol 30A.  Mae’r cyflenwadau trydan yn cael eu rheoli gan system mesurydd ar sail talu wrth ddefnyddio.  Gellir cael credyd o swyddfa’r harbwr.  Ni ellir gwarantu cylenwad di-dor oherwydd natur y system a’r dyfeisiau diogelwch sydd wedi’u gosod ar bob cyflenwad.

Toiledau
Wedi’u lleoli rhwng adeilad yr RNLI ac adeilad Gwylwyr y Glannau.  Mae yna doiled i’r anabl yma.  Ni cheir defnyddio toiled cwch tra ei fod yn y Marina.

Diolgelwch Cyffredinol
Ceir diffoddwyr tân ar ben dwyreiniol pob pontwn, mewn blychau mawr coch.  Ceir bwiau achub ar bob pen i’r pontynau.  Os gwelwch yn dda, peidiwch â mynd â’r eitemau hyn i ffwrdd; efallai bydd eu hangen mewn argyfwng.  Dylai plant wisgo siacedi achub bob amser.

Terfynau Cyflymder
Mae yma derfyn cyflymder gorfodol araf dros ben, sef 3 not, yn y Marina bob amser.  Os gwelwch yn dda, cadwch reolaeth dros eich adlif.

Diogelwch ar y Pontynau
Gall y pontynau fynd yn llithrig iawn pan fyddant yn wlyb neu’n rhewllyd.  Mae biniau graean ar ben y mynedfeydd.  Cynghorir cwsmeriaid i beidio â rhoi dillad ychwanegol amdanynt wrth sefyll ar y pontynau pan fydd y tywydd yn wael.

Tablau’r llanwau
Gellir prynu’r rhain o swyddfa’r harbwr ym Marina Porth Tywyn.