English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 20/7/2009
Taliadau Marina Porth Tywyn 

TALIADAU RHWNG 01 EBRILL 2009 A 31 MAWRTH 201

Taliadau Angori Blynyddol - yn daladwy ymlaen llaw naill ai drwy Un Taliad Blynyddol, Dau Daliad Hanner Blwyddyn neu Daliadau Misol drwy Ddebyd Uniongyrchol.

Yr Harbwr Allanol
a.  Pontynau'r marina :   £115.00 y metr a TAW y flwyddyn (o leiaf 6 metr)   
b.  Cychod pysgota masnachol:   £84.00 y metr a TAW y flwyddyn (o leiaf 6 metr - mwyafswm o 12 o gychod pysgota cofrestredig)
c. Cychod sydd ar ymweliad:   £1.40 y metr a TAW y noson (o leiaf 6 metr - mwyafswm o 14 noson) 
      
Doc y Dwyrain
Pontynau'r marina:    £101.00 y metr a TAW y flwyddyn (o leiaf 5 metr)  

Doc y Gorllewin
Angorfeydd ar wely'r harbwr:   £32.00 y metr a TAW y flwyddyn (o leiaf 5 metr)   

Taliadau am Ddŵr a Gwastraff - yr Harbwr Allanol a Doc y Dwyrain
Codir £2.50 y mis am waredu gwastraff a dŵr ar bawb sy'n angori yn yr Harbwr Allanol neu yn Noc y Dwyrain.
 
Allwedd - yr Harbwr Allanol a Doc y Dwyrain
Bydd £12 (nad oes modd ei ad-dalu) am allweddi i agor y gatiau yn cael ei godi ar bawb sy'n angori yno. (Mwyafswm o ddwy allwedd i bob angorfa)
 
Tocynnau Parcio
Caiff un tocyn tymor i barcio ym Mharc Arfordirol y Mileniwm (PAM) ei roi am ddim gyda phob Cytundeb Prydles ar gyfer Angorfa.
Caiff £30.00 ei godi am bob tocyn tymor (PAM) ychwanegol.
Car a Threlar - caiff £40.00 ei godi am bob tocyn tymor (PAM).
 
Lle fesul cyfnod – yn daladwy ar orchymyn
Haf, mis Ebrill tan fis Medi (o leiaf 6 metr)
 
a.  1 mis (28 diwrnod) -  £1.15 y metr a TAW y diwrnod
b.  2 fis (56 diwrnod) - £0.95 y metr a TAW y diwrnod
c.  3 mis (84 diwrnod) - £0.70 y metr a TAW y diwrnod
d.  4 mis (112 diwrnod) - £0.55 y metr a TAW y diwrnod
e.  5 mis (140 diwrnod) - £0.55  y metr a TAW y diwrnod
f.  6 mis (168 diwrnod) - £0.55 y metr a TAW y diwrnod 
 

Gaeaf, mis Hydref tan fis Mawrth (o leiaf 6 metr)
a.   £0.45 y metr a TAW y diwrnod (mwyafswm o 168 diwrnod)
 
Gwasanaethau'r Marina
a. Darparu rhaffau yn lle rhai sydd wedi torri neu wedi treulio: £10 a TAW y cwch a £5 a TAW am bob metr o raff. 
b. Gwagio dŵr o gwch: £20 a TAW yr awr (o leiaf hanner awr).
c. Lansio/codi cwch (ac eithrio cost y trelar a llogi craen) - £8 a TAW am bob metr bob ffordd (o leiaf 5 metr). 
d. Ail-leoli cwch yn y marina - £20 a TAW. 
e. Taliadau llafur (tîm 2 ddyn) - £40 a TAW  yr awr (o leiaf hanner awr).