Trwy gydweithio gyda’i bartneriaid, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn darparu nifer fawr o gyfleusterau adweithio ar gyfer cerdded, marchogaeth ceffylau a beicio.
Mae cyfleoedd i fwynhau bywyd gwyllt a golygfeydd y Sir mewn Parciau Trefol, Parciau Gwledig, Gwarchodfeydd Natur, Parciau Coetir, safleoedd Picnic yn ogystal â chyfleoedd i fwynhau coetiroedd mewn dwylo preifat y mae gan y cyhoedd yr hawl i gerdded ynddynt.
Mae Teithiau Gwledig wedi’u Harwyddo yn cysylltu llawer o’r cyfleusterau ac mae llwybrau beicio’n cael eu darparu ar draws y Sir. Mae rhai Teithiau Cerdded Sirol hefyd yn cynnig llwybrau wedi’u harwyddo ac mae taflenni’n cynnig manylion am y daith a gwybodaeth am nodweddion o ddiddordeb.
Mae llawer o lwybrau’n cysylltu â’i gilydd i ffurfio llwybrau hirach, gan gynnwys Llwybr Arfordirol Bae Caerfyrddin.