
Gwelodd Penrhyn Machynys un o’r trawsnewidiadau mwyaf dramatig yn holl hanes prosiect y Parc Arfordirol.
Mae’r hyn a fu unwaith yn un o’r hyllbethau diwydiannol gwaethaf yng Nghymru erbyn hyn yn gwrs golff byd-enwog.
Yn ogystal â’r cwrs pencampwriaeth gwych, mae’r ganolfan yn cynnwys cyfleusterau spa a brasserie moethus yn ei adeilad a gostiodd filiynau o bunnoedd i’w godi.
Er na fu ond ar agor am ychydig flynyddoedd, mae’r cwrs 7100 llath eisoes yn cael ei ystyried yn un safon byd ac mae wedi croesawu Pencampwriaeth Menywod Ewrop Cymru.
Cyn y chwyldro diwydiannol, roedd Machynys yn ynys ynghanol Aber yr Afon Llwchwr lle y safai, yn ôl yr hanes, mynachdy hynafol oedd yn cael ei gysylltu â Phenrhyn Gŵyr gan dwnnel tanddaearol.
Gwahanol iawn yw’r olygfa heddiw ac erbyn hyn pererinion golff sy’n cael eu tynnu i’r penrhyn i chwarae ar y cwrs cyntaf yng Nghymru i gael ei gynllunio gan Jack Nicklaus.
Mae’r cwrs golff ‘twyni’ a’r cyfleusterau hamdden ar agor saith niwrnod yr wythnos i’r cyhoedd.
Mae dewis helaeth o ddyddiau cymdeithasau golff, pecynnau spa dydd a thriniaethau harddwch ar gael trwy holi. Mae Machynys hefyd yn cynnig cyfleusterau ymarfer gyda’r gorau, gan gynnwys ‘Canolfan Ragoriaeth’ Undeb Golffio Cymru.