Am ddau ddegawd, bu gwarchodfa Canolfan Adar y Gwlyptir yn Llanelli yn hafan i fywyd gwyllt o bob math ond erbyn hyn mae’n fwy na dwywaith y lle yr arferai fod.
Y rheswm yw yr ychwanegwyd dros 60 hectar o lynnoedd, pyllau, camlesi a nodweddion dŵr eraill i’r ganolfan yn rhan o brosiect Parc Arfordirol y Mileniwm.
Yn ei chartref ar ben dwyreiniol y Parc, mae Canolfan Genedlaethol Adar y Gwlyptir Cymru yn cael ei chydnabod yn brif safle Cymru ar gyfer rhywogaethau adar o bob lliw a llun. Mae’n ganolfan lle y gall pobl o bob oed ddod yn agos iawn at natur a chael cyfle i ddysgu mwy amdano.
Gall yr adarwr pybyr a’r ymwelydd achlysurol ill dau fwynhau’r Ganolfan. Mae cyfres o guddfannau wedi’u lleoli’n ofalus i gynnig golygfeydd gwych o adar gwyllt y ganolfan ond mae yna hefyd lawer o hwyaid, elyrch a gwyddau dof yn crwydro’r tiroedd a fydd yn ddigon hapus i gymryd bwyd o law plentyn.
Mae yna hefyd ganolfan wybodaeth a darganfod wych, sy’n cynnwys paneli dehongli, offer chwarae rhoi-cynnig-arni, deunyddiau addysgol, café/bwyty a siop anrhegion.