Chwaraeodd Parc Dŵr y Sandy ran allweddol yn ailenedigaeth arfordir Llanelli gan mai yno y gwelwyd y cyntaf o’r prif brosiectau adfywio ac roedd yn enghraifft wych o sut y gellid rhoi bywyd o’r newydd i hen safle diwydiannol.
Am bron i 80 mlynedd, llanwodd gwaith dur enfawr y safle a’r dref ond erbyn hyn diflannodd hynny ac yn ei le daeth parctir trefol heddychlon sy’n cael ei fwynhau gan filoedd o ymwelwyr bob blwyddyn.
Mae Parc Dŵr y Sandy yn cynnwys llyn hyfryd 16 erw sy’n hafan i fywyd gwyllt o bob math ac mae ganddo haid o elyrch preswyl sy’n gallu bod yn fwy nac 20 mewn nifer ar rai adegau o’r flwyddyn.
Gerllaw Parc Dŵr y Sandy mae’r Meysydd Gŵyl, a gafodd y fraint o groesawu’r Eisteddfod Genedlaethol ar droad y mileniwm newydd.
Hwn oedd y safle cyntaf a gynlluniwyd yn unswydd ar gyfer yr ŵyl ac ers hynny cafodd ei ddatblygu’n llecyn awyr agored sy’n gallu cynnal digwyddiadau o bob math.