English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Cadwraeth Natur 
 Gwarchod Natur

 Mae Parc Coetir y Mynydd Mawr yn enghraifft ryfeddol o'r modd y mae bywyd gwyllt wedi dychwelyd i ardal anial.

Mae rhai llecynnau yn y Parc wedi eu hailhadu, ond yn achos y rhan fwyaf o'r tomenni gwastraff a'r hen gaeau mae bywyd gwyllt wedi dychwelyd yno mewn modd naturiol.

Bellach mae'r hen borfeydd ar lannau afon Gwendraeth Fawr yn goetir ynn a chyll lle mae'r coed wedi eu hadu eu hunain. Ac mae derw yn dal i fritho'r hen fencydd.

I raddau helaeth mae tomenni'r pyllau glo a'r gweithfeydd glo brig wedi eu troi'n goetir conwydd ac yn laswelltir agored.  Bellach mae'r coetir hwn yn hafan i'r Dryw Eurben a Glesyn y Gaeaf Bach (Pyrola minor) anghyffredin.

Erbyn hyn mae'r glaswelltir a grëwyd lle bu'r tomenni gwastraff, yn gynefin magu i ehedyddion - sydd bellach yn rhywogaeth brin yn genedlaethol. Bu cryn gyffro yn ddiweddar ar ôl gweld bod planhigyn prin, sef y Brymlys, wedi dechrau tyfu ar y glaswelltir hwn. Fodd bynnag cydnabyddir erbyn hyn taw ffurf o'r America ar y planhigyn yw hwn,  yr oedd ei hadau wedi eu cynnwys yn y cymysgedd hadau gwreiddiol adeg ailhadu'r tir.

Ger hen siafftiau'r Mynydd Mawr, lle mae'r gwastraff o'r tomenni wedi ei wasgaru'n denau, a lle mae'r draeniad yn wael, mae math prin o hesg, Ccrex distisha, wedi dechrau tyfu. Hefyd mae nadredd defaid a nadredd y gwair yn ffynnu yn y man hwn.

Efallai taw un o'r cynefinoedd mwyaf diddorol yn y Parc Coetir yw'r creigiau oedd yn weddill ar ôl gorffen cloddio am lo brig. Gan bwyll mae'r llecyn hwn yn troi'n brysgdir sy'n gyforiog o blanhigion cytrefu - sef planhigion sy'n gallu tyfu heb braidd dim pridd organig, gan gael dŵr yn ysbeidiol yn unig.

Mae un llecyn yn y creigiau hyn yn frith o ffynhonnau, sy'n brigo o'r creigiau gan gludo dŵr yn danddaearol o ben uchaf y Tymbl. Ar ben hynny mae'r dŵr hwn yn llawn mwynau, ac mae amrywiaeth cyffrous o blanhigion tir llaith yn tyfu o gwmpas y sgydau bychan hyn. Mae entomolegydd lleol wedi dod o hyd i fath prin o bryf sowldiwr yn y llecyn hwn.

Yn wir mae natur, heb fawr ddim cymorth, wedi creu paradwys bywyd gwyllt ar y Mynydd Mawr.  Mae rhaglenni ar waith er mwyn gwella'r cynefinoedd gyda golwg ar gynnal pwysigrwydd y parc hwn i'r gymuned leol.

Tudalen wedi ei diweddaru ar 24/8/2009