Mae llawer o ganolfannau hamdden a phyllau nofio o'r radd flaenaf yn Sir Gaerfyrddin gan gynnwys cyfleusterau preifat a rhai a ddarperir gan y Cyngor.
Oherwydd rhaglen fuddsoddi anferth mae llawer o'r canolfannau bellach yn gallu ymfalchïo mewn cyfleusterau newydd gan gynnwys ystafelloedd ffitrwydd modern iawn.
Gellir gweld canlyniad y buddsoddiad hwn mewn datblygiadau megis y gwelliannau parhaus yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin, sy'n cynnwys pwll nofio newydd sbon, ystafell ffitrwydd a neuadd chwaraeon fwy.
Lleolir canolfannau hamdden y Cyngor drwy'r Sir yn yr ardaloedd canlynol:
Fel arfer mae'r canolfannau'n cynnwys rhai neu bob un o'r cyfleusterau canlynol:
- Ystafell ffitrwydd
- Pwll nofio
- Cyrtiau tennis
- Cyfleusterau athletau
- Cyrtiau sboncen
- Cyrtiau badminton
- Neuadd chwaraeon
- Maes pob tywydd