Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Digital Services; : Llif Newyddion;>  | fersiwn symudol  | Teledu Digidol
Campau'r Ddraig 
Campau'r Ddraig

Menter genedlaethol yw Campau'r Ddraig, a ddatblygwyd gan Gyngor Chwaraeon Cymru mewn partneriaeth â'r Awdurdodau Lleol a'r Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol yng Nghymru .

Mae Rhaglen Campau’r Ddraig yn bwriadu cynyddu nifer y plant sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon allgyrsiol ac ehangu diddordebau chwaraeon plant sydd eisoes yn cymryd rhan mewn chwaraeon arbennig.  

Nodau ac Amcanion Campau'r Ddraig

  • Cyflwyno plant 7-11 oed i amrywiaeth o gampau sydd wedi eu trefnu'n dda ac y gallant eu mwynhau
  • Cynyddu'r cyfleoedd i BOB plentyn o ran chwarae a chael llwyddiant mewn amrywiaeth eang o weithgareddau chwaraeon sy'n hwyl
  • Sefydlu clybiau Campau’r Ddraig mewn ysgolion cynradd ac yn y gymuned
  • Recriwtio rhieni, athrawon, a phobl eraill i faes arweinwyr chwaraeon, a darparu ffyrdd iddynt allu dechrau hyfforddi, dyfarnu, neu weinyddu
  • Sicrhau bod pob plentyn yn cael HWYL wrth wneud CHWARAEON

Pa gampau sydd ar gael?

 Athletau  Pêl-rwyd
 Criced  Rygbi
 Pêl-droed  Golff
 Hoci  Tenis
 

Bydd Rhaglen Campau’r Ddraig yn helpu ysgolion cynradd i:

  • Sefydlu Clybiau Chwaraeon allgyrsiol Campau’r Ddraig
  • Datblygu cysylltiadau partneriaeth gyda chlybiau chwaraeon lleol
  • Recriwtio a hyfforddi rhieni, myfyrwyr ac aelodau’r teulu i fod yn arweinyddion chwaraeon er mwyn cynorthwyo athrawon ac ysgolion gyda’u rhaglen chwaraeon allgyrsiol.

Sut all Ysgol ddod yn rhan o Gampau’r Ddraig?

Erbyn hyn mae Campau’r Ddraig wedi cael ei gyflwyno i bob rhan o Sir Gaerfyrddin. Cysylltwch â’ch Cydgysylltydd Campau’r Ddraig os hoffech gael gwybod pa ran mae eich ysgol yn ei chwarae yn y cynllun.

Bydd Rhaglen Campau’r Ddraig yn helpu clybiau cymunedol a chwaraeon i:

Ddatblygu adrannau iau i blant 7-11 oed
Datblygu cysylltiadau partneriaeth gydag ysgolion cynradd lleol

Sut mae clwb cymunedol yn dechrau cymryd rhan yng Nghampau'r Ddraig?

Os oes gan glwb ddiddordeb mewn sefydlu neu gymryd rhan mewn clwb Campau'r Ddraig, dylid cysylltu â Chydgysylltydd Campau'r Ddraig.

A oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli?

Mae Campau’r Ddraig wastad yn ceisio recriwtio gwirfoddolwyr i helpu rhedeg clybiau a gall pobl helpu mewn pob math o ffyrdd, fel hyfforddi, gosod offer, cymryd y gofrestr, gofalu am grwpiau ac ati.

Nid oes yn rhaid i chi fod yn gyn-chwaraewr dros Gymru nac yn hyfforddwr arbennig ar gyfer plant ifanc.  Rydym yn chwilio am bobl sy'n mwynhau gweithio gyda phlant ac sy'n awyddus i sicrhau bod chwaraeon yn gyfystyr â chael HWYL! Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn wirfoddolwr gyda   Champau'r Ddraig, cysylltwch â Chydgysylltydd Campau'r Ddraig.

Tudalen wedi ei diweddaru ar 16/6/2010
 
Contact Details (cy)
 
Cysylltwch âr Tim Campau'r Ddraig - 01554 744352 neu Hamdden@sirgar.gov.uk