Ffurfiwyd partneriaeth rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin ac Undeb Hoci Cymru yn 2003.
Mae prif ddyletswyddau'r Swyddog Datblygu Hoci fel a ganlyn:-
Cynllunio, gweithredu a monitro'r cyfleoedd chwarae, hyfforddi a chystadlu yn Sir Gaerfyrddin, yn enwedig i fenywod a merched er mwyn codi safonau cyffredinol a chodi a gwella safonau hyfforddwyr a gwirfoddolwyr gweithredol o ran cefnogi hoci yn Sir Gaerfyrddin.
- Annog cyfranogiad yn y gêm mewn ysgolion cynradd ac uwchradd drwy ddatblygu cyfleoedd hyfforddiant, chwarae a chystadlu tymor hir.
- Hwyluso datblygiad chwaraewyr o dan 13 a chwaraewyr o dan 15 yn Sir Gaerfyrddin.
- Darparu cyswllt ar gyfer chwaraewyr sydd â diddordeb mewn bod yn rhan o glwb drwy sefydlu cysylltiadau cryf rhwng ysgolion, Canolfannau Datblygu a chlybiau hoci lleol.
- Cydgysylltu sefydlu clybiau hoci, os oes angen.
- Hybu cyrsiau addysg hyfforddwyr Undeb Hoci Cymru i hyfforddwyr a hyfforddwyr posibl ac annog hyfforddwyr cymwys i fod yn weithredol yn y Sir.
- Dechrau rhaglenni datblygu a rhagoriaeth ar gyfer chwaraewyr hoci ifanc o sgiliau sylfaenol i chwaraewyr y garfan genedlaethol.
- Sefydlu fforymau hoci, lle bo'n angenrheidiol, gan gynnwys partneriaid effeithiol ac asiantaethau datblygu chwaraeon yn y Sir.
- Darparu cyngor ac arweiniad ynghylch datblygiad clybiau a chyfleoedd cyllido i bob clwb hoci yn y Sir.
- Codi proffil hoci drwy'r Sir.
Eisiau ymuno â chlwb hoci yn agos atoch chi?
I ddod o hyd i'ch clwb agosaf, ewch i chwilio yn y cyfeirlyfr clybiau chwaraeon neu cysylltwch â Rae Ellis, Swyddog Datblygu Hoci drwy ffonio 01554 744351.