Mae Uned Datblygu Chwaraeon Sir Gaerfyrddin wedi ymrwymo i ddatblygu a chefnogi cyfleoedd chwaraeon a gweithgareddau corfforol i bawb yn y Sir. Gweler isod fanylion nifer o fentrau a reolir gan yr Uned Datblygu Chwaraeon.
Clwb Athletau Newydd i'r Dreigiau Ifanc
Gwyliwch y fideo hwn o Gampau'r Ddraig yn lansio'r clwb newydd!
Rygbi Cyffwrdd Sir Gâr.
Mae Rygbi Cyffwrdd Sir Gâr wedi cael cyfle gwych i lwyfannu digwyddiad rhyngweithiol â Dennis Coffey yn brif siaradwr gwadd sef un o'r prif weinyddwyr a darparwyr addysg hyfforddwyr Rygbi Cyffwrdd. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.
Cyllid ar gyfer Clybiau / Unigolion
Ceir nifer o gynlluniau cyllido sydd â'r nod o wella datblygiad chwaraeon a gweithgarwch corfforol i glybiau/sefydliadau ac unigolion yn Sir Gaerfyrddin.
Bellach, o Ebrill 2011, mae £1500 ar gael i sefydliadau drwy Grant y Gist Gymunedol!
Cynigir cymorth i Glybiau Rygbi er mwyn gwella eu cyfleusterau drwy raglen wirfoddoli gymunedol RBS Rugby Force. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Wefan RBS 6 Nations.
Gwirfoddoli yn Sir Gaerfyrddin
A oes gennych chi ychydig o amser sbâr? A oes gennych ddiddordeb mewn chwaraeon? A ydych chi'n hoffi gweithio gydag eraill? Os felly, beth am fynd yn wirfoddolwr?!
Cyfeirlyfr Clybiau Chwaraeon
A ydych chi eisiau ymuno â thîm? A ydych chi eisiau ailgydio mewn camp? Neu'n syml a ydych chi eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd a gwahanol? Os felly, gallwch chi gael rhagor o wybodaeth ynghylch clybiau chwaraeon yn eich ardal ar Gyfeirlyfr Clybiau Chwaraeon Ar-lein Sir Gaerfyrddin.
Cyngor Chwaraeon Lleol Sir Gaerfyrddin
Nod y Cyngor Chwaraeon Lleol Sir Gaerfyrddin, sef corff sy'n cynrychioli chwaraeon yn y sir ac sy'n gweithio mewn partneriaeth â'r Uned Datblygu Chwaraeon yw darparu ystod eang o wasanaethau cynnal.