Bydd Tîm Datblygu Chwaraeon Cyngor Sir Caerfyrddin, ar y cyd â Chyngor Chwaraeon Lleol Sir Gaerfyrddin, yn trefnu ei Noson Gwobrau Personoliaeth Chwaraeon flynyddol.
Bwriad y noson hon yw hyrwyddo, cydnabod, a gwobrwyo'r athletwyr, yr hyfforddwyr, a'r gwirfoddolwyr sy'n cyflawni gorchestion ac yn cyfrannu tuag at y llwyddiant parhaus y mae'r sir hon yn ei gael ym myd y campau.
Cyn bo hir caiff y rhestr fer ei llunio ar gyfer Gwobrau Personoliaeth Chwaraeon eleni. Bydd yr athletwyr/yr hyfforddwyr/y gwirfoddolwyr a'r timau sydd wedi llwyddo i gyrraedd y rhestr fer ar gyfer y gwobrau nodedig hyn yn cael eu cyhoeddi'n fuan……
Diolch i bawb sydd wedi cyflwyno enwebiadau. Bydd llunio rhestr fer yn anodd gan fod cynifer o enwebiadau o safon.