English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 23/11/2011
Chwaraeon Dwr 

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin a Chymdeithas Canŵio Cymru wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu Chwaraeon Dŵr yn y Sir am dros chwe blynedd.

Mae'r swyddog yn gweithio yng Nghanolfan Ganŵio Llandysul.

Nod cyffredinol y Swyddog Datblygu Chwaraeon Dŵr yw datblygu a hybu Chwaraeon Dŵr a Phadlo yn y Sir.
  
Mae'r amcanion fwy penodol fel a ganlyn:

  • Sefydlu cynllun datblygu ar gyfer y Sir.
  • Cynyddu nifer y bobl ifanc sy'n cymryd rhan yn rheolaidd mewn gweithgareddau sy'n seiliedig ar ddŵr a chwaraeon padlo yn benodol.
  • Gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion, sefydliadau a chlybiau ieuenctid er mwyn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan mewn chwaraeon dŵr a phadlo.
  • Sefydlu a chynorthwyo clybiau yn eu datblygiad.
  • Trefnu a gweithredu gweithgareddau, digwyddiadau a chystadlaethau.
  • Cynllunio a gweithredu rhaglen addysg hyfforddwr  er mwyn rhoi sylfaen gadarn i'r holl waith datblygu cysylltiedig.

Diddordeb mewn chwaraeon dŵr?

Eisiau dod o hyd i glwb yn agos atoch chi? Yna, ewch i chwilio yn y cyfeirlyfr clybiau chwaraeon neu cysylltwch â Gareth Bryant, Swyddog Datblygu Chwaraeon Dwr drwy ffonio 01559 363209.