
Byddwch yn Bartner mewn Iechyd Da
Disgownt ar Aelodaeth Campfa, Dosbarthiadau a Nofio
Mae “staff iach, elw iach” yn ddywediad a glywir yn aml ym myd busnes. Bydd cynhyrchiant yn well os yw lefelau salwch yn isel a bod gan staff gymhelliad cryf. Gallwch helpu eich gweithwyr i wella cynhyrchiant drwy ddod yn Bartner Iechyd Corfforaethol i’r Cyngor Sir.
Fel partner gwerthfawr gallwn gynnig disgownt i’ch gweithwyr ar ddefnydd Clybiau iechyd a ffitrwydd Fusion a phyllau nofio yng Nghanolfannau Hamdden Rhydaman, Caerfyrddin, Llanelli a Chastell Newydd Emlyn. Yn ddiweddar gwnaed buddsoddiad gwerth £700,000 yn y cyfleusterau gan olygu ystod o offer cardiofasgwlaidd Technogyn a fydd yn helpu i wella stamina a cholli pwysau. Mae ynddynt hefyd beiriannau gwrthsefyll sy'n cynorthwyo i dynhau a diffinio'r cyhyrau.
Nid oes cost ariannol i’ch cwmni chi gan mai’r unig beth yr ydym yn ei ofyn yw eich bod yn cyfathrebu’r cynnig hwn i’ch holl staff yn gyson.
Manteision:
- Ysgogiad cynyddol a rheolaeth gadarnhaol gan staff
- Cyfranogiad ecscliwsif yn rhaglen nofio fwyaf Sir Gaerfyrddin
- Sesiwn gyflwyniad gyfeillgar gan aelodau tîm Fusion a fydd yn mesur eich ffitrwydd ac yn eich cyflwyno i’r offer
- Rhaglen ymarfer bersonol