Adain Datblygu’r Celfyddydau yn yr Is-adran Hamdden yw gwasanaethau celfyddydau’r Cyngor Sir.
Mae'n darparu ar gyfer celfyddydau ac adloniant cyfoes, twristiaeth ddiwylliannol yn seiliedig ar y celfyddydau, ac eiriolaeth a chyngor ar ddefnyddio’r celfyddydau gan adeiniau gwahanol o’r Cyngor Sir.
Rydym wedi ymrwymo i egni creadigol y sir a gwneud yn fawr o rôl diwylliant ym mywyd cymdeithasol, economaidd a chymunedol yr ardal.
Rydym wrthi ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar ddatblygu a gwella ein cyfleusterau ac ar gryfhau ein cysylltiadau gyda mudiadau lleol, y sector addysg a chynulleidfaoedd.
Rydym yn darparu ar gyfer ystod eang o berfformiadau, arddangosfeydd arbenigol, gweithdai, digwyddiadau llenyddol a ffilm. Mae Theatrau Sir Gâr / Carmarthenshire Theatres yn rheoli Canolfan Adloniant Llanelli ar gyfer ffilm a theatr, Theatr a Sinema’r Lyric yng Nghaerfyrddin a Theatr y Glowyr yn Rhydaman.