English |  Hepgor gwe-lywio | Testun yn Unig |  Newid maint y testun AAA
Gwasanaethau Digidol: Llif Newyddion | fersiwn symudol | Teledu Digidol
Oriel Myrddin 

Oriel gelf a chrefft gyfoes yw Oriel Myrddin, sydd â rhaglen newidiol o arddangosfeydd cyffrous.

 Hefyd, mae'r oriel yn cynnal gweithgareddau addysgol, gan gynnwys trefnu bod artistiaid yn treulio cyfnodau preswyl mewn ysgolion lleol a chyda grwpiau cymunedol. Yn ogystal, mae'r artistiaid sy'n ymweld â'r oriel yn cynnal gweithdai a sgyrsiau, a gellir cael manylion amdanynt drwy gysylltu â'r oriel. Cynhelir dosbarthiadau'n rheolaidd yn y stiwdio lan lofft, ac mae modd i'r cyhoedd ei llogi.

Mae rhaglen arddangosfeydd Oriel Myrddin yn cynnwys artistiaid a chrefftwyr o'r radd flaenaf o bob cwr o Gymru, y Deyrnas Unedig, a thu hwnt. Yn ogystal â chreu ei harddangosfeydd cyffrous a gwreiddiol ei hun, mae'r oriel yn croesawu arddangosfeydd teithiol o lefydd ar draws y DU, gan ddangos paentiadau, cerfluniau, ffotograffau, ac amrywiaeth eang o ddyluniadau a chelf cymhwysol cyfoes. Yn y siop gellir prynu gemwaith, gwydr, gwaith pren, tecstilau, a chrochenwaith cyfoes. Mae Collectorplan, cynllun credyd di-log, ar gael. 

Mae'r Oriel yn dod o hyd i waith o safon yn yr holl ddisgyblaethau'n gyson, ac mae wedi ymroi i hybu rhagoriaeth ym maes crefftau, a hynny er lles crefftwyr, ymwelwyr, a chwsmeriaid. 

Rhagleni Oriel Myrddin


Ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn
10am – 5pm
Mynediad am ddim

 

Tudalen wedi ei diweddaru ar 23/8/2011
 
Manylion Cysyllt
 

Oriel Myrddin
Lôn y Llan
Caerfyrddin
Sir Gaerfyrddin
Gorllewin Cymru
SA31 1LH

Ffôn:  01267 222775
Ffacs:  01267 220599
www.orielmyrddingallery.co.uk