Mae'r rhan fwyaf ohonom yn yfed alcohol ar bob math o achlysuron ac am bob math o resymau. Os ydych yn yfed yn synhwyrol nid yw alcohol yn gwneud niwed i chi a gall fod yn rhywbeth i'w fwynhau.
Wedi dweud hynny, mae yfed yn drwm dros lawer o flynyddoedd yn gallu achosi llu o broblemau iechyd. Efallai bod alcohol yn gwneud i chi deimlo'n fywiog ac yn siaradus, a bod ychydig ohono'n peri i chi ymlacio, ond cyffur sy'n gwneud i chi deimlo'n isel ydyw yn y bôn. Gall alcohol achosi i chi ymddwyn yn ymosodol neu ddadlau ag eraill, ac mae goryfed ar un achlysur yn unig yn gallu arwain at goma neu farwolaeth hyd yn oed.
Mae effeithiau tymor byr alcohol yn cynnwys:
Yn y tymor hir mae yfed yn gallu achosi niwed difrifol i'r afu. Yn ogystal â:
 |
Anhwylderau stumog megis briwiau a llid y cylla |
 |
Canser y geg, y gwddf, a'r corn gwddf |
 |
Niwed i'r ymennydd
|
 |
Anawsterau rhywiol |
 |
Pwysedd gwaed uchel |
 |
Clefydau sy'n effeithio ar y cyhyrau
|
 |
Problemau â'r system nerfol, fel poen yn y coesau a'r breichiau |
Drwy ddilyn argymhellion y Gwasanaeth Iechyd Gwladol gallech osgoi'r niwed y mae yfed yn ei wneud yn y tymor hir.
Argymhellion ynghylch Yfed
Cyngor y GIG yw na ddylai dynion yfed mwy na 3 neu 4 uned o alcohol y diwrnod, ac na ddylai menywod yfed mwy na 2 neu 3 uned y diwrnod. Mae’r terfynau ar gyfer menywod yn is gan fod gan gyrff menywod gymhareb uwch na dynion o ran braster i ddŵr, sy’n golygu nad ydynt yn gallu gwanhau alcohol yn y corff gystal ac nad ydynt yn prosesu alcohol mor effeithiol. Hyd yn oed os nad ydych yn yfed yn ystod yr wythnos, nid yw hynny'n golygu eich bod yn gallu cadw'r unedau yn ôl a'u hyfed i gyd ar un noson.
Cliciwch ar y Cyfrifydd Unedau i gael golwg ar sut y mae unedau'n gweithio.

I gael rhagor o wybodaeth am yfed yn synhwyrol, cliciwch ar y dolenni canlynol:
1. Alcohol a Beichiogrwydd – www.units.nhs.uk/pregnancy.html
2. Beth yw Uned - www.units.nhs.uk/unit.html
3. Peryglon Iechyd o ganlyniad i Yfed Gormod – www.units.nhs.uk/healthharms.html
4. Sut i Yfed Llai – www.units.nhs.uk/cuttingdown.html
Dyma wefannau eraill sy’n cynnig cyngor:
www.alcoholics-anonymous.org.uk
www.drinkaware.co.uk
www.alcoholconcern.org.uk
www.prism-online.info
www.askdan.org.uk
www.yfeddoethcymru.org.uk