Iechyd y Geg
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Iechyd y Geg 

Mae dannedd yn hanfodol i'n hiechyd yn gyffredinol

Mae’r geg yn cynnwys miliynau o facteria, rhai bacteria da a rhai bacteria drwg.  Mae'r bacteria drwg yn achosi problemau os byddant yn casglu ar wyneb y dannedd a chig y dannedd fel plac dannedd.   Bacteria yw plac sy'n gorchuddio'r dannedd ac yna'n bwydo ar y siwgrau yn ein bwyd a'n diod, sydd yna'n creu asid.  Mae’r asid yn meddalu ac yn gwanhau enamel y dannedd, ac yna collir calsiwm a halwynau mwynol o wyneb y dannedd gan achosi pydredd dannedd. 

Mae brwsio dannedd ddwywaith y dydd gyda phâst dannedd fflworid yn hanfodol er mwyn cadw ein dannedd a'n ceg yn iach. Mae siwgr yn chwarae rhan allweddol mewn achosi pydredd dannedd, ac ni ddylid bwyta bwydydd a diodydd siwgraidd heblaw adeg prydau bwyd a dim ond yn gymedrol bryd hynny.

Y Cynghorion Gorau ar gyfer Brwsio Dannedd

Rhowch flaen eich brws dannedd yn erbyn eich dannedd, yna trowch flew'r brws ar ongl 45 gradd yn erbyn llinell cig y dannedd.  Symudwch y brws mewn cylchoedd bach, lawer gwaith, ar bob wyneb o bob dant.
Brwsiwch wyneb allanol pob dant, uchaf ac isaf, gan gadw blew'r brws ar ongl yn eryn llinell cig y dannedd.
 Gwnewch yr un peth ar wyneb mewnol pob un o'ch dannedd.
Brwsiwch wyneb cnoi y dannedd.
I lanhau wyneb mewnol y dannedd blaen, trowch y brws yn fertigol a gwnewch gylchoedd bach, lawer gwaith, gyda rhan flaen y brws.

Trwy frwsio'r tafod bydd hynny'n helpu i ffreshau'r anadl a glanhau'r geg drwy gael gwared ar y bacteria.

Os oes angen ichi gofrestru gyda deintydd GIG, ffoniwch 0845 46 47 neu ewch i www.nhsdirect.wales.nhs.uk

I gael rhagor o wybodaeth am Iechyd Y Geg, cliciwch ar y dolenni cyswllt isod:

www.nhs.uk/Livewell/dentalhealth
www.nhsdirect.wales.nhs.uk/small/en/home/healthinformation/oralhygiene
www.nhsdirect.wales.nhs.uk/small/en/home/healthinformation/oralhygiene


 

Tudalen wedi ei diweddaru ar 04/1/2010