English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 04/1/2010
Iechyd Rhyw 

Trwy gael gwybodaeth dda am iechyd rhyw byddwch yn gallu parhau i fod yn iach, gwneud dewisiadau ynghylch defnyddio dulliau atal cenhedlu a gwybod lle i gael gwasanaethau iechyd rhyw.

Os ydych angen dull atal cenhedlu yna gallwch fynd i'ch Meddygfeydd lleol, sy'n gallu rhoi cyngor a gwybodaeth ynghylch iechyd rhyw a llawer o ddulliau atal cenhedlu. Hefyd gallwch ymweld â Gwasanaethau Iechyd Rhyw Sir Gaerfyrddin isod:

Clinig Elizabeth Williams
Lôn y Felin
Llanelli
SA15 3SE
Rhif ffôn: 01554 784701

Heol y Pwll
Caerfyrddin
SA31 1RT
Rhif ffôn: 01267 227475

Madog Suite
Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru 
Glangwili
Caerfyrddin
SA31 2AF
Rhif ffôn: 01267 227475

Clinig Rhydaman
Meddygfa Brynteg
Rhodfa Brynmawr
Rhydaman
SA18 2DA

Rhif ffôn: 01267 227475

Mae Gwasanaeth Iechyd Rhyw Sir Gaerfyrddin yn cynnig:

 Profion Beichiogrwydd
Clinigau drws-agored a thrwy apwyntiad ar gyfer cael cyngor atal cenhedlu ac iechyd rhyw yn gyffredinol.
Profion a thriniaeth am Heintiau a Drosglwyddir yn Rhywiol.
Condoms am ddim.
Clinigau arbenigol ar gael trwy atgyfeirio gan feddyg teulu.
Clinigau arbenigol sy'n cynghori ynghylch HIV ac yn cynnal profion ar gael drwy apwyntiad.
Dulliau atal cenhedlu brys ar gael am ddim o fferyllfeydd penodol.
Help gydag amrywiaeth o broblemau rhyw.
Cwnsela ynghylch trais ac ymosodiad rhyw.

Mae condoms a dulliau atal cenhedlu brys ar gael yn unrhyw glinig - nid oes angen gwneud apwyntiad, cliciwch yma i gael gwybod yr amserau gorau.

I gael rhagor o wybodaeth am Iechyd Rhyw cliciwch ar y dolenni cyswllt canlynol.

ww.carmarthenlhb.wales.nhs.uk  – for information on pharmacies giving free emergency contraception.
www.wales.nhs.uk/sites3/page.cfm?pid=28962&orgid=45  – what the NHS Trust provides.
www.ruthinking.co.uk  – for younger people
www.brook.org.uk  – for the gay and bisexual
www.rapecrisis.co.uk  – if you have been sexually assaulted.
www.tht.org.uk  – Terrence Higgins Trust Cymru – HIV and sexual health charity.