English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Smygu 

Yn y Deyrnas Unedig mae un person yn marw bob pedwar munud o afiechyd sy'n gysylltiedig â smygu. 

Mae smygu'n achosi:

Canser yr ysgyfaint (mae smygu'n achosi dros 80 y cant o holl farwolaethau canser yr ysgyfaint)
Clefyd y Galon
Broncitis
Strôc
Wlserau yn y stumog
Lewcemia
Madredd
Mathau eraill o ganser e.e canser y geg a'r gwddf

Hefyd gall smygu beri i anhwylderau eraill fynd yn waeth gan gynnwys anwydau, problemau'r frest ac alergeddau megis clwy'r gwair, broncitis ac emffysema.  Gall greu sgil-effeithiau annymunol megis crychau a gwynt cas ar eich anadl a'ch gwneud yn brin eich anadl pan fyddwch yn gwneud ymarfer corff.

Rhoi'r Gorau i Smygu

Rydych yn cael budd ar unwaith o roi'r gorau i smygu.  O fewn ychydig wythnosau byddwch yn anadlu'n well  a bydd eich dillad yn lanach.  A hyd yn oed yn well na hynny, mae'r risg o gael afiechyd difrifol yn dechrau gostwng ar unwaith ac yn parhau i ostwng am flynyddoedd wrth i'ch corff ddod ato'i hun.

Yn ogystal â'r effaith ar eich iechyd mae rhoi'r gorau i smygu yn ei gael, rhaid cofio hefyd am gost smygu. Defnyddiwch ein cyfrifiannell i weld faint y gallech ei arbed drwy roi'r gorau i smygu.

   

 

Mae'r Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol yn gweithredu'r cynllun Dim Smygu Cymru,  sy'n rhoi cymorth i smygwyr ar hyd a lled Cymru i fynd drwy'r broses o roi'r gorau i smygu. Roedd y mwyafrif o bobl yn arfer smygu - erbyn hyn dim ond 25% sy'n gwneud hynny. Mae miloedd wedi rhoi'r gorau iddi, gan helpu nhw'u hunain a'r bobl o'u cwmpas.

Ffoniwch 0800 085 22 19 i gael cymorth a chyngor ar roi'r gorau i smygu.
Cewch ragor o wybodaeth ar y gwefannau canlynol:
www.ash.org.uk
www.nhsdirect.wales.nhs.uk
www.gosmokefree.nhs.uk

 

Tudalen wedi ei diweddaru ar 04/1/2010