Diogelwch yn yr Haul
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Diogelwch yn yr Haul 
/English/healthchallenge/topics/PublishingImages/Girl%20applying%20suncream%20to%20face.jpg

Os ydych yn cael llosg haul poenus unwaith yn unig bob dwy flynedd, mae’r risg y cewch y math mwyaf difrifol o ganser y croen yn gallu bod dair gwaith yn uwch.

Canser y croen yw un o'r canserau mwyaf cyffredin ym Mhrydain, ac mae nifer y bobl sy'n dioddef ohono'n cynyddu.  Mae'n gysylltiedig â gormod o belydrau uwchfioled o'r haul - y math a geir yng ngolau haul a gwelyau haul.  Byddai modd atal y canserau hyn pe baem yn ein diogelu ein hunain rhag cael gormod o'r pelydrau hyn.

Diogelu ein hunain

 
Pan nad oes dim cysgod, y ffordd orau i ddiogelu eich croen rhag yr haul yw trwy wisgo dillad llac, het gantel llydan a sbectol haul dda.
Po fwyaf o groen sy'n cael ei orchuddio gan eich dillad, mwyaf oll yw'r diogelwch. 

Mae hetiau'n wych ar gyfer diogelu'r wyneb, y llygaid a'r pen.  I gael y diogelwch gorau dewiswch het gantel llydan. Pan fyddwch yn chwilio am sbectol haul ceisiwch gael un o'r canlynol:

y Marc 'CE' a'r Marc 'Safon Brydeinig' (BS EN 1836:1997)
 Label Uwchfioled 400
datganiad bod y sbectol haul yn diogelu eich llygaid 100% rhag pelydrau uwchfioled.

Hefyd, gofalwch fod y sbectol yn diogelu ochr y llygad.

Eli haul

Mae eli haul o gymorth i ddiogelu ein croen rhag pelydrau'r haul.  Ond os defnyddiwch hwn ar ei ben ei hun yna ni fydd yn eich diogelu'n gyfan gwbl rhag cael niwed o'r haul. Dyna pam rydyn ni'n argymell defnyddio eli haul yn ogystal â chysgod neu ddillad er mwyn osgoi llosgi yn yr haul.
Rydyn ni'n argymell eich bod yn prynu eli haul sydd â:

 Ffactor Diogelwch yn yr Haul (SPF) 15 neu fwy
 Eli haul “sbectrwm-eang” sydd â phedair seren neu fwy

Yr SPF sy'n dangos faint o ddiogelwch mae'r eli haul yn ei roi rhag y pelydrau UVB sy'n achosi llosg haul a chanser y croen.  Gorau po fwyaf yw'r ffactor er mwyn i chi gael y diogelwch gorau rhag llosgi. 

Nid yw'r un eli haul - waeth pa mor uchel yw'r ffactor - yn gallu cynnig diogelwch llwyr. A bydd yn rhoi diogelwch priodol ichi os byddwch yn defnyddio digon ohono a hynny'n rheolaidd.

Mae eli haul sbectrwm eang yn atal pelydrau UVA yn ogystal ag UVB - gall y pelydrau hyn hefyd arwain at ganser y croen. Yn y DU rydym yn mesur diogelwch rhag pelydrau UVA drwy ddefnyddio'r system 'sêr'. Gall eli haul gael rhwng 0 a 5 seren. Nid yw nifer y sêr yn fesur absoliwt ac mae'n dibynnu faint o ddiogelwch UVB mae'r eli haul yn ei roi. Er enghraifft, gall SPF 25 sydd â 3 seren atal mwy o UVA yn gyffredinol na SPF 10 sydd â 4 seren.

Pan fyddwch yn prunu eli haul, chwiliwch am frandiau:

sy'n gwrthsefyll dŵr – mae'n llai tebygol y cânt eu golchi neu eu chwysu o'r corff 
sydd heb fynd heibio i'r dyddiad y daw i ben – mae'r mwyafrif o eli haul yn para 2-3 blynedd

Rhoi eli haul ar eich croen  

Ceisiwch roi eli haul ar y croedn 15-30 munud cyn mynd allan yn yr haul.  
Ceisiwch roi eli haul ar y croen 15-30 munud cyn mynd allan yn yr haul. Rhowch yr eli haul eto'n fuan er mwyn sicrhau eich bod yn rhoi haen gyson ar y croen. Meddyliwch amdano fel paentio wal – mae'r gôt gyntaf yn llenwi rhannau garw a'r ail gôt yn rhoi haen gyson.

Rhowch eli haul ar y croen yn rheolaidd bob 2 awr neu'n amlach os yw wedi cael ei olchi, ei rwbio neu ei chwysu oddi ar y croen. Hyd yn oed os yw'r eli haul yn honni ei fod yn gwrthsefyll dŵr dylid ei roi'n rheolaidd ar y croen ar ôl bod yn y dŵr. Hefyd rydyn ni'n argymell rhoi eli haul 'unwaith y dydd' ar y croen yn rheolaidd, rhag ofn eich bod wedi methu rhan o'r croen.

Rhowch ddigonedd o'r eli haul bob tro. Os na fyddwch yn rhoi digon o eli haul, rydych yn cael llawer llai o ddiogelwch na'r hyn a hysbysebir ar y botel. Ac ni allwch wneud iawn am roi ychydig yn unig o'r eli ar un tro drwy ddefnyddio ffactorau uwch.

Peidiwch byth â defnyddio eli haul er mwyn gallu treulio mwy o amser yn yr haul - bydd hyn yn eich rhoi mewn perygl o gael niwed o'r haul a allai arwain at ganser y croen.

Cymerwch ofal ychwanegol o blant

Mae croen ifanc yn sensitif ac yn hawdd ei niweidio gan yr haul. Rhaid diogelu plant rhag yr haul, p'un a ydynt yn cael lliw haul yn rhwydd neu beidio. Mae plant sydd â gwallt golau neu wallt coch, llygaid golau neu frychni haul yn fwy agored i risg. Cadwch fabanod dan chwe mis oed o lygad yr haul, yn enwedig ganol dydd.

Cliciwch yma i gael rhagor o gynghorion ynghylch cadw plant yn ddiogel yn yr haul

 

I gael rhagor o wybodaeth am ddiogelwch yn yr haul cliciwch ar y dolenni cyswllt isod:

NHS Direct 

Cancer Research


 

Tudalen wedi ei diweddaru ar 04/1/2010