Y Gymraeg yw un o ieithoedd hynaf Ewrop ac yma yn Sir Gaerfyrddin ceir y nifer uchaf o siaradwyr Cymraeg dros Gymru gyfan.
Dengys Cyfrifiad 2001 fod 83,802 o boblogaeth y Sir yn medru’r Gymraeg, a cheir manylion pellach drwy’r modiwl ystadegau ar ein gwefan.
Mae Cyfrifiad 2001 yn ffynhonnell allweddol o wybodaeth am y Gymraeg, nid yn unig ar lefel genedlaethol, ond ar lefel sirol. Cynyddodd y nifer o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru o 509,098 ym 1991 i 575,730 yn 2001.
Er y cynnydd yng Nghymru, gostyngiad bu i’r canrannau yng nghadarnleoedd y Gymraeg, gan gynnwys Sir Gâr wrth i’r niferoedd ostwng o 89,213 yn 1991 i 83,802 yn 2001.
Mae’n rhaid nodi fod cynnydd yn y niferoedd o siaradwyr Cymraeg ymysg pobl ifanc, yn enwedig ymhlith oedrannau pump i bymtheg. Mae’n amlwg fod y datblygiadau cyson yn narpariaeth addysg Gymraeg a dwyieithog wedi cael effaith bendant ar y niferoedd o blant oed ysgol sy’n gallu siarad Cymraeg.
Mae'r Cyngor yn ymfalchïo yn y ffaith fod y Gymraeg yn cael ei defnyddio yn helaeth yn y Sir a'i bod ar gynnydd mewn sawl ardal - gyda mwy o blant, pobl ifanc a phobl hyn yn dysgu ac yn defnyddio'r iaith. Mae'r Cyngor wedi'i ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo'r iaith ac annog y defnydd ohoni trwy'r sir gyfan.
Mae'r Cyngor yn cefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru a ddisgrifiwyd yn 2010 yn ei Strategaeth ar gyfer y Gymraeg 'Iaith Fyw: Iaith Byw. Fel noda’r ddogfen, mae’r "Gymraeg yn rhan allweddol o hunaniaeth ddiwylliannol a chymeriad Cymru. Mae'n helpu i'n diffinio ni fel cenedl - yn ein cymunedau, yn ein perthynas â ffrindiau a theuluoedd ac fel unigolion."
Gan ein bod fel Cyngor yn ymrwymedig i adfer yr iaith Gymraeg yn y Sir, yr ydym wedi penodi aelod arbennig o'r Bwrdd Gweithredol i fod yn gyfrifol am ddatblygu'r iaith Gymraeg sef y Cynghorydd Clive Scourfield. I'w gynghori ar y ffordd ymlaen mae yna Banel Ymgynghorol yr Iaith Gymraeg wedi'i sefydlu yn ogystal.
Cynllun Iaith Gymraeg 2011-2014
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi mabwysiadu’r egwyddor y bydd yn trin y Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod nhw’n gyfartal. Mae’r Cynllun Iaith yn disgrifio sut y bydd y Cyngor yn gweithredu’r egwyddor honno wrth gynnig gwasanaethau i’r cyhoedd yn Sir Gaerfyrddin.
Mae’r Cyngor yn cydnabod:
- y gall ein cwsmeriaid fynegi eu barn a’u hanghenion yn well yn eu dewis iaith
- mai mater o arfer da yn hytrach na goddefgarwch yw eu galluogi i ddefnyddio’u dewis iaith
- gall gwadu’r hawl i ddefnyddio’u dewis iaith eu rhoi mewn sefyllfa anfanteisiol
Felly, bydd y Cyngor yn cynnig i’r cyhoedd yn Sir Gaerfyrddin yr hawl i ddewis pa iaith i’w defnyddio wrth ddelio â’r Cyngor.
Mae'n ofynnol, yn ôl Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, i gyrff cyhoeddus yng Nghymru fabwysiadu a gweithredu Cynllun Iaith Gymraeg.
Dylai'r cynllun ddisgrifio sut y bydd y corff cyhoeddus yn trin y Gymraeg a'r Saesneg ar sail gyfartal wrth ddarparu gwasanaethau a chyfathrebu gyda'r cyhoedd a dylai gynnwys adrannau ar y materion canlynol:
- cyhoeddi dogfennau dwyieithog
- cynnal delwedd gorfforaethol ddwyieithog
- hyrwyddo'r defnyddio'r Gymraeg mewn cyfarfodydd cyhoeddus
- ateb y ffôn yn ddwyieithog
- gohebu yn ddwyieithog gyda'r cyhoedd
- sicrhau bod sefydliadau trydydd parti yn darparu gwasanaethau yn Gymraeg
- darparu gwasanaethau dwyieithog
- prif ffrydio'r Gymraeg i bolisïau a gwasanaethau
Nod y Cyngor yw:
- meithrin dwyieithrwydd ar draws y Cyngor ac ym mhob cwr o Sir Gaerfyrddin
- galluogi pawb sy’n defnyddio gwasanaethau’r Cyngor, neu’n cyfrannu at y broses ddemocrataidd, i wneud hynny trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg yn ôl eu dewis personol
- gwella safon y gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg ar draws yr adrannau
- annog pobl i ddefnyddio’r Gymraeg yn amlach ym mywyd yr ardal; Trwy hynny, bydd y Cyngor yn cyfrannu at yr ymgyrch i adfywio’r Gymraeg ar draws Cymru yn unol ag agenda strategol Cynulliad Cenedlaethol Cymru
- gofalu bod holl bolisïau, strategaethau, prosiectau a phartneriaethau’r Cyngor yn hyrwyddo defnyddio’r Gymraeg ac yn annog pobl i’w defnyddio’n amlach
- helpu pob unigolyn a sefydliad ar draws Sir Gaerfyrddin i ddefnyddio’r Gymraeg
- datblygu gallu disgyblion ysgol a myfyrwyr o bob oedran i fod yn gadarn ddwyieithog ac yn llythrennog yn y ddwy iaith, er mwyn mynd yn aelodau cyflawn o’r gymuned ddwyieithog y maen nhw’n byw ynddi
- codi hyder a gwella sgiliau dwyieithog staff, cynghorwyr a thrigolion y sir
- datblygu delwedd fodern a deinamig i’r sir gyfan, sy’n parchu ei threftadaeth ac yn hyrwyddo’r Gymraeg
Cliciwch yma i ddarllen Cynllun Iaith Gymraeg Cyngor Sir Caerfyrddin 2011-2014.
Mae’n ofynnol bod y Cyngor Sir yn llunio Adroddiad Blynyddol i gyd fynd gyda gweithrediad y Cynllun Iaith er mwyn cadarnhau cydymffurfiaeth ac i adrodd ar berfformiad. Cliciwch yma i ddarllen yr Adroddiad Blynyddol 2011/2012.