
Beth yw Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin?
Sefydlwyd Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin ym mis Medi 2003, a hynny gan bobl ifanc i bobl ifanc. Mae’r Cyngor wedi parhau i dyfu a datblygu byth ers hynny!
Faint o bobl sy’n ymwneud â Chyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin?
Mae’r Cyngor Ieuenctid yn cynnwys tua 30 o bobl ifanc frwdfrydig 14-25 oed o Sir Gaerfyrddin.
Beth yw rôl Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin?
Nod y Cyngor Ieuenctid yw bod yn llais dros bobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin drwy greu cyfleoedd iddynt a’u cael i gymryd rhan mewn penderfyniadau ar faterion sy’n effeithio ar fywydau ieuenctid Sir Gaerfyrddin.
Mae’r Cyngor Ieuenctid o’r farn fod gan bobl ifanc hawl i leisio eu barn, a bod eu sylwadau nhw yr un mor bwysig â’r hyn sydd gan oedolion i’w ddweud.
Beth yw ei nod?
Mae Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin yn tyfu’n barhaus ac yn ymgymryd â phrosiectau newydd ond mae ganddo gyfres o amcanion craidd sydd bob amser yn flaenoriaeth:
- Hyrwyddo gwaith sydd o fudd i holl bobl ifanc 11-25 oed yn Sir Gaerfyrddin.
- Bod yn llais i holl bobl ifanc Sir Gaerfyrddin.
- Bod yn gyfrwng i newidiadau a datblygiadau cadarnhaol.
- Creu cyfleoedd i bobl ifanc gyfrannu at brosesau democrataidd / gwneud penderfyniadau yn yr Awdurdod, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Sut gallaf fod yn rhan o Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin?
Caiff aelodau eu hethol i Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin o 6 fforwm ieuenctid Sir Gaerfyrddin: Aman, Gwendraeth, Llanelli, Taf Myrddin, Tywi a Theifi. Mae gan bob Fforwm Ieuenctid bum cynrychiolydd.
Gall unrhyw un sydd rhwng 11 a 25 oed fod yn aelod o’i Fforwm Ieuenctid Lleol.