Rydym yn cynnig gwahanol fuddion a threfniadau gweithio i gynorthwyo gweithwyr yn eu bywyd gwaith a’u bywyd personol, yn cynnwys:
- Cynllun disgownt i staff, sy'n cynnig disgowntiau ar bob math o bethau o fenthyciadau personol i CDau.
- Cynllun hamdden sy'n cynnig disgownt i staff ar gyfer defnyddio Canolfannau Hamdden ledled y sir
- Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol sy'n cynnig sgrinio iechyd a dull o fyw, cwnsela a chymorth arall.
- Cynllun talebau Gofal Plant
- Amrywiaeth o drefniadau gweithio hyblyg gan gynnwys cynllun oriau hyblyg, trefniadau absenoldeb arbennig, rhannu swydd, gweithio gartref (sy'n cael ei dreialu ar hyn o bryd)
- Cynllun Ymddeol Hyblyg
- Cyfleoedd Datblygu
Er ein bod yn gofyn am gymwysterau a phrofiad penodol ar gyfer rhai o'n swyddi, rydym wedi ymrwymo i roi cefnogaeth i'n gweithwyr i ddatblygu eu sgiliau.
Dyma rai o'r ffyrdd rydyn ni'n gwneud hyn:
- Arfarniadau rheolaidd a chynlluniau datblygiad personol
- Cyrsiau Hyfforddiant
- E-ddysgu
- Secondiadau
- Prentisiaethau Modern
Amrediad Cyflog
Pay Structure
Cynllun Pensiwn
Rydym yn un o blith nifer fechan o sectorau bellach sy'n parhau i gynnig cynllun pensiwn cyflog terfynol. Mae gweithwyr newydd yn ymuno â'r cynllun yn awtomatig (er y gallwch eithrio o'r cynllun os dymunwch).
Mae'r Cynllun yn cynnig:
- Pensiwn Ymddeol yn seiliedig ar y cyflog terfynol
- Cyfandaliad di-dreth adeg ymddeol
- Sicrwydd yswiriant Marwolaeth mewn Swydd sef dwywaith y cyflog blynyddol a hynny o'r diwrnod cyntaf
- Hyblygrwydd i dalu cyfraniadau ychwanegol er mwyn cynyddu buddion pensiwn
Gwyliau
O leiaf 26 diwrnod o wyliau yn ogystal ag 8 gŵyl banc bob blwyddyn. Mae gweithwyr rhan-amser yn cael gwyliau pro-rata.
Absenoldeb a Chyflog Cyfnod Mamolaeth
Rydym yn darparu cynllun mamolaeth estynedig i weithwyr cymwys.
Tadolaeth a Chyflog
Mae partneriaid (sy'n gymwys) yn cael cymorth adeg genedigaeth baban o ran absenoldeb a chyflog.