Os nad yw eich cartref yn addas ar gyfer eich anghenion, mae amryw o ddewisiadau ar gael a allai eich helpu i fyw'n fwy annibynnol.
Addasu eich cartref
Mae'n bwysig addasu cartrefi fel eu bod yn addas ar gyfer anghenion penodol y bobl sy'n byw ynddynt.
Os yw’r math iawn o gartref gan rywun sydd ag anabledd neu broblem symudedd, gall ef/hi barhau i fwynhau byw'n annibynnol, neu os oes angen help arnoch gan ofalwr, gall addasiad ei gwneud yn haws iddynt eich helpu chi.
Addasiadau ar gyfer Tenantiaid y Cyngor
Os ydych yn denant i'r Cyngor, gallwch wneud cais i ni addasu eich cartref. Rhaid i geisiadau am y gwaith hwn fodloni meini prawf penodol.
I gael rhagor o wybodaeth am addasiadau tai, cysylltwch i gychwyn â'r Tîm Gwella Cartrefi.
Addasiadau ar gyfer perchenogion tai a phobl sy'n rhentu'n breifat
Os ydych yn berchen ar eich cartref neu'n denant, cewch wneud cais am Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl i'ch helpu i addasu eich cartref. Byddwn yn ystyried eich incwm a'ch cynilion cyn rhoi Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl ichi. Fodd bynnag, os oes angen ichi addasu eich cartref ar gyfer plentyn dan 18 oed, ni fyddwn yn gwneud penderfyniad ar sail eich incwm.
£36,000 yw'r swm mwyaf y gallwn ei roi ichi. Byddwn yn edrych ar eich incwm (os yw hyn yn berthnasol) pan fyddwch yn cyflwyno eich cais.