Rydym yn deall yr hoffai llawer o bobl brynu eu cartref eu hunain ond na allant fforddio gwneud hynny heb gymorth ychwanegol.
Er bod prisiau tai wedi syrthio dros y blynyddoedd diwethaf, pris cyfartalog tŷ ar gyfer ‘prynwr tro cyntaf’ yw £94,000.
Mae’r rhan fwyaf o brynwyr tro cyntaf sy’n gallu fforddio’r taliadau morgais yn gweld na allant fynd ar yr ysgol eiddo gan fod benthycwyr morgeisi’n aml yn mynnu blaendaliadau o 10% neu hyd yn oed 20%.
Ystyr tai fforddiadwy yw tai ‘cymorthdaledig’ ar gyfer pobl sy’n methu fforddio prynu cartref addas ar y farchnad agored. Gallai hynny ddigwydd trwy dai preifat cost isel, tai fforddiadwy ar rent neu ran berchnogaeth.
Mae’r rhan fwyaf o ddatblygiadau tai newydd yn gorfod cynnwys nifer o dai fforddiadwy. Mae teuluoedd sy’n gymwys i brynu cartref fforddiadwy yn ei brynu am ganran o’r pris llawn, sy’n dibynnu ar ei leoliad. Fel arfer, mae tŷ fforddiadwy yn costio tua £78,000 am dŷ tair ystafell wely, sydd fel arfer yn cael eu gwerthu trwy drefniant rhannu ecwiti.
Tai fforddiadwy sydd ar gael ar hyn o bryd:
Fel arfer maent yn cael eu gwerthu trwy drefniant rhannu ecwiti
Parc y Gelli, Foelgastell -Tai developments
2 fflat x 2 ystafell wely, pris o gwmpas £63,000
Danybryn, Heol Horeb, Mynyddygarreg - Charles Church
1 tŷ 3 ystafell wely, pris o gwmpas £75,300
Tai 2 ystafell wely ar y safle hwn cyn bo hir, pris o gwmpas £63,000
Llys y Foryd Cydweli – Morgan Construction
Tai 3 ystafell wely pris o gwmpas £75,300
Er mwyn cael mwy o wybodaeth cysylltwch â Sian Stephens